Aelodaeth Yr Urdd 2023-24 Membership

Mae hi’n amser i’r rheini sy’n dymuno i ymaelodi gyda’r Urdd unwaith eto.

Os yw eich plentyn yn dymuno ymaelodi, pris aelodaeth eleni (2023-24) ydy:

• Aeloadaeth unigol – £10.00

• £1 i’r rheiny sy’n derbyn cefnogaeth drwy gynllun prydau ysgol am ddim, grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg.

• £25 i deulu o 3 neu fwy.

Rydym yn gofyn i chi ymaelodi eich plentyn ar-lein (https://www.urdd.cymru/cy/ymuno/) gan greu cyfri a phroffil o fewn Y Porth.  Ar ôl creu cyfri, bydd modd i chi fwrw ati gydag aelodaeth yr Urdd, a gellir dychwelyd i’r Porth ar unrhyw adeg i wirio neu newid manylion.  Os oes gennych gyfrif ers llynedd, bydd modd mewngofnodi ac ymaelodi drwy’r cyfrif hwnnw.

Bydd bathodyn a cherdyn gyda’r rhif aelodaeth (cadwch y rhif yn ddiogel) i bawb sy’n ymaelodi.

Ni fydd plant yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau fel yr isod os nad ydynt yn aelodau:-

1. Eisteddfod – cystadlaethau llwyfan, gwaith celf a chrefft a llenyddol, CogUrdd (Blynyddoedd 4 i 6).

2. Blynyddoedd 3 i 6 – Cystadlu mewn gwahanol chwaraeon yr Urdd e.e. pêl-droed, athletau, nofio a.y.y.b.

It’s time for those who would like to join the Urdd to do so once again.

If your child wishes to join, this year’s membership (2023-24) costs:

• Individual membership – £10.00

• £1 for those eligible for free school meals support, school uniform grant, or Education Maintenance grant scheme.

• £25 for a family of 3 or more.

We ask that you join online (https://www.urdd.cymru/en/join/) by creating an account and profile within ‘Y Porth’.  You will then be able to proceed with membership for 2023-24 as well as return to ‘Y Porth’ at any time to check or update your details.  If you have an account from last year, you will be able to log in and join through your account.

There will be a badge and a card with the membership number (keep the number safe) for everyone who joins.

Children will not be allowed to participate in activities such as the following if they are not members: –

1. Eisteddfod – stage competitions, art and craft and literary work, CogUrdd (Years 4 to 6).

2. Years 3 to 6 – Compete in various sports – football, athletics, swimming etc.