Clwb Brecwast a Chlwb ar ol Ysgol
Mae’r ysgol yn cynnal Clwb brecwast am ddim yn y bore i hwyluso trefniadau i’r rhieni sydd eisiau cymryd mantais o’r gefnogaeth. Mae’r clwb brecwast am ddim yn
dechrau am 7.50yb. Bydd brecwast syml yn cael ei ddarparu i unrhyw ddisgybl rhwng 7.50yb ac 8.20.yb. Ni fyddwn yn paratoi brecwast ar ol hynny. Mi fydd staff y clwb
brecwast am ddim yn pahau i ‘oruchwylio’r disgyblion yn y clwb tan 8.30yb. Yna bydd y disgyblion a’r staff yn mynd allan ar y buarth rhwng 8.30yb tan 8.55am. O safbwynt
diogelwch eich plentyn, mae’n bwysig bod pob rhiant sy’n cludo eu plentyn i’r ysgol cyn 8.30yb yn sicrhau eu bod yn trosglwyddo eu plentyn i aelod o staff y clwb brecwast,
ac yn arwyddo’r gofrestr eu bod wedi gwneud hyn. Nid ydym yn disgwyl plant tacsi tan ar ol 8.35yb ac erbyn hyn bydd aelod o staff ar ddyletswydd wrth giat yr ysgol. Mae’r
trefniadau yma yn cyd-fynd a chynllun clybiau brecwast am ddim Llywodraeth Cymru.
Mae cyfle hefyd i blant aros yn y Clwb ar ôl ysgol o 3.30yp tan 5.25yh. Rydym yn codi £9.00 y plentyn i fynychu’r clwb yma. Mae’r staff yn paratoi rhywbeth i fwyta i’r
disgyblion. Gellir derbyn mwy o wybodaeth drwy holi yn yr ysgol. Cyn mynychu’r clwb bydd y staff yn gofyn i chi gwblhau ffurflen wybodaeth. Bydd angen i chi arwyddo’r
gofrestr dyddiol a nodi’r amser y byddwch wedi derbyn eich plentyn yn ol i’ch gofal.
Mae disgwyl i bob plentyn sy’n mynychu’r clwb brecwast, clwb ar ôl ysgol ac unrhyw glybiau eraill, ymddwyn yn briodol a dangos yr un parch tuag at y staff a’u cyfoedion, â
sydd yn ddisgwyliedig yn ystod yr oriau ysgol.
Gellir talu am y clybiau drwy ‘Parent pay’. Mae’r rhan fwyaf o rieni yn talu unai ar y diwrnod neu yn gwneud taliadau rheolaidd cyn diwedd y mis. Serch hynny mae cyfyngiad
o £100 y plentyn ar gyfer y clwb ar ol ysgol. Ni chanieteir i blentyn fynychu’r clwb os oes dyled sydd dros y cyfyngiad, tan fydd y dyled wedi ei dalu’n llawn neu yn ol yn is
na’r cyfyngiad.
Ysgol
Tremeirchion
‘Un teulu gyda’n gilydd’
Cysylltu efo Ni
Ysgol Tremeirchion
Tremeirchion
Llanelwy / St Asaph
LL17 0UN
01745 710328
ysgol.tremeirchion@sirddinbych.gov.uk
ysgol.tremeirchion@denbighshire.gov.uk
@YsgTremeirchion
Ysgol Tremeirchion © 2025 Website designed and maintained by H G Web Designs