Capel Waengoleugoed, Y Waen

Yn ddiweddar, cawsom eitemau celf a chreffft gan Capel Waengoleugoed, Y Waen. Fe wnaethom ddefnyddio’r eitemau ar gyfer gwneud gwaith ‘collage’ ar gyfer cystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd. Diolch yn fawr iawn iddynt am yr eitemau celf a chrefft.

Yna, dros yr wythnos yma, mae disgyblion blwyddyn 1 a 2 wedi bod yn ysgrifennu cardiau Pasg ar gyfer ymwelwyr Capel Waengoleugoed. Fe wnaeth pawb ysgrifennu gweddi’r Pasg yn eu cerdyn. Llwyddodd pob disgybl ym mlwyddyn 1 a 2 i ysgrifennu cerdyn i’r ymwelwyr. Diolch yn fawr iawn i bawb am ysgrifennu mor daclus ac am gyflwyno neges y Gwanwyn ar Pasg yn eu cardiau.

 

Recently, we received art and craft items from Waengoleugoed Chapel, Waen. We used the items to create our collages for the Urdd collage competitions. Thank you for the art and craft items.

During this week, year 1 and 2 pupils have been busy writing Easter cards for the people who attend ‘Capel Waengoleugoed. Every pupil wrote a special Easter prayer in each card. Thank you to all of the pupils for writing neatly in their cards and for writing about the Easter and Spring so wonderful in their cards.