Gwersi Addysg Gorfforol Blynyddoedd 5 a 6 / Years 5 & 6 PE Lessons

O ddydd Llun nesaf, Mawrth 6ed, bydd diwrnodau Addysg Gorfforol Blynyddoedd 5 a 6 yn newid o ddydd Mawrth a dydd Iau i ddydd Llun a dydd Mercher. Mae croeso i’r disgyblion wisgo’u gwisg Addysg Gorfforol i’r ysgol ar ddiwrnod gwers Addysg Gorfforol.

From next Monday, March 6th, Years 5 and 6 PE days will change from Tuesday and Thursday to Monday and Wednesday. The pupils are welcome to wear their PE kit to school on the day of a PE lesson.

Gweithgareddau Diweddar / Recent Activities

Twrnamaint Pêl-droed Dyffryd Clwyd / Vale of Clwyd Football Tournament

Bu nifer o ddisgyblion hŷn yr ysgol yn cynrychioli’r ysgol mewn twrnamaint pêl-droed yn Rhuthun yn ddiweddar. Da iawn chi am weithio’n wych fel tîm.

A number of the school’s older pupils represented the school in a football tournament in Ruthin recently. Well done for working brilliantly as a team.


Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth / Showing Racism the Red Card

Ar ddiwrnod gêm bêl-droed Cymru v Iran, bu’r disgyblion yn cwblhau gweithgareddau Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith yr elusen.

On the day of the Wales v Iran football match, the pupils completed Show Racism the Red Card activities in order to raise awareness of the charity’s work.


Dydd Arwyr y Rhyngrwyd / Be Internet Legend Day

Roedd hi’n Ddydd Arwyr y Rhyngrwyd ar Ragfyr 8fed. Ymunodd disgyblion hŷn yr ysgol â gwasanaeth rhithiol gyda Parent Zone a Google cyn mynd ati i gwblhau gweithgareddau. Mae mwy o wybodaeth ar gael i rieni yma: Online Safety Tips for Parents – Be Internet Legends

It was Be Internet Legends Day on December 8th. The school’s older pupils joined a virtual assembly with Parent Zone and Google before completing activities. Information for parents can be found here: Online Safety Tips for Parents – Be Internet Legends


Gweithdy Drymiau / Drums Workshop

Diolch i’r Parchedig Carol Thomas o’r Esgobaeth am gynnal gweithdy drymiau gyda’n disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6. Roedd pawb wedi mwynhau’n fawr.

Thanks to Reverend Carol Thomas from the Diocese for leading a drums workshop with our Year 5 and Year 6 pupils. Everyone thoroughly enjoyed the session.


CogUrdd

Llongyfarchiadau i Ela o Flwyddyn 4 am gynrychioli’r ysgol yng nghystadleuaeth CogUrdd yn Ysgol Uwchradd y Rhyl yn ddiweddar. Roedd Ela’n cystadlu yn Rownd Rhanbarth Dinbych ac roedd canmol mawr i’r Frechdan Fendigedig!

Congratulations to Ela from Year 4 for representing the school in the CogUrdd competition at Rhyl High School recently. Ela was competing in the Denbigh Regional Round and her Splendid Sandwich was commended!

Gwersi Addysg Gorfforol Blynyddoedd 3 a 4 / Years 3 & 4 PE Lessons

O ddydd Llun nesaf, Tachwedd 21ain, bydd diwrnodau Addysg Gorfforol Blynyddoedd 3 a 4 yn newid o ddydd Mawrth a dydd Iau i ddydd Llun a dydd Mercher.  Mae croeso i’r disgyblion wisgo’u gwisg Addysg Gorfforol i’r ysgol ar ddiwrnod gwers Addysg Gorfforol.

From next Monday, November 21st, Years 3 and 4 PE days will change from Tuesday and Thursday to Monday and Wednesday.  The pupils are welcome to wear their PE kit to school on the day of a PE lesson.

Trawsgwlad Sir Ddinych / Denbighsire Cross-country

Llongyfarchiadau i’r disgyblion yma am gynrychioli’r ysgol yn wych yn ffeinal trawsgwlad Sir Ddinbych yng Nghanolfan Hamdden Dinbych yr wythnos ddiwethaf.

Congratulations to these pupils for representing the school brilliantly in the Denbighshire cross-country final at Denbigh Leisure Centre last week.

Trawsgwlad Dyffryn Clwyd / Vale of Clwyd Cross-country

Llongyfarchiadau i’r pedwar uchod am gynrychioli’r ysgol mewn ras drawsgwlad yng Nghlwb Rygbi Rhuthun y bore ‘ma. Roedd pob un wedi rhoi o’u gorau. Bydd tri o’r pedwar yn cynrychioli’r ysgol unwaith eto yn ras derfynol Sir Ddinbych ar ôl y gwyliau hanner tymor. Da iawn chi blant.

Congratulations to the four pupils in the photo for representing the school in a cross-country race at Ruthin Rugby Club this morning. They were all brilliant. Three of the four will represent the school once again in the Denbighshire final after the half term holiday.

Pêl-rwyd yr Urdd / Urdd Netball

Llongyfarchiadau i dîm pêl-rwyd yr ysgol am gynrychioli’r ysgol yng nghystadleuaeth Pêl-rwyd Merched yr Urdd yn Ysgol Glan Clwyd heddiw. Diolch i bob un am ymdrechu ac ymddwyn yn wych. Diolch i Ms Barr a Mrs Williams, yr hyfforddwyr heddiw, yn ogystal.

Congratulations to the school’s netball team for representing the school in the Urdd Girls Netball competition at Ysgol Glan Clwyd today. Thanks to the girls for their brilliant effort and behaviour. Thanks to Ms Barr and Mrs Williams, the coaches today, too.

Rasys Traws gwlad / Cross-country Races

Cawsom wybod brynhawn Gwener diwethaf bod Tîm Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych yn trefnu cystadleuaeth rhedeg traws gwlad ar gaeau Clwb Rygbi Rhuthun ar ddydd Gwener, Hydref 28ain.

Mae pedair ras i gyd:

Bechgyn Blynyddoedd 3 a 4 – 1000m

Merched Blynyddoedd 3 a 4 – 1000m

Bechgyn Blynyddoedd 5 a 6 – 1500m

Merched Blynyddoedd 5 a 6 – 1500m

Rydym yn gobeithio anfon un plentyn i gynrychioli’r ysgol ym mhob ras.  Dydd Iau yma, bydd y disgyblion sy’n dymuno rhedeg yn ymarfer rhedeg pellter y ras.  Ar ddydd Mawrth, Hydref 25ain, byddwn yn cynnal rasys yn yr ysgol gydag enillydd pob ras yn cynrychioli’r ysgol yn Rhuthun.

Os ydych chi’n fodlon i’ch plentyn fentro, a wnewch chi gwblhau’r ffurflen ar-lein, os gwelwch yn dda: https://forms.office.com/r/03emD0gwvJ


We were informed last Friday afternoon that Denbighshire Leisure’s Active Communities Team is organising a cross-country competition on the fields of Ruthin Rugby Club on Friday, October 28th.

There are four races in total:

Boys Years 3 and 4 – 1000m

Girls Years 3 and 4 – 1000m

Boys Years 5 and 6 – 1500m

Girls Years 5 and 6 – 1500m

We hope to send one child to represent the school in each race.  This Thursday, the pupils who wish to run will practice running the distance of the race.  On Tuesday, October 25th, we will hold races at school with the winner of each race representing the school in Ruthin.

If you are willing for your child to take part, please complete the online form: https://forms.office.com/r/03emD0gwvJ

Diolch yn fawr.