Annwyl Rieni a Gofalwyr Nodyn i atgoffa Rhieni a Gofalwyr i ddilyn canllawiau ac i atal lledaenu coronafeirws Hoffwn atgoffa rhieni a gofalwyr Sir Ddinbych i ddilyn canllawiau Covid-19 i helpu i atal lledaeniad pellach o’r feirws. Gyda phryderon ynghylch lledaenu’r amrywiolyn Delta, mae Cyngor Sir Ddinbych yn gofyn i drigolion, rhieni a gofalwyr i barhau i wneud eu rhan. Mae hyn yn cynnwys dilyn canllawiau presennol Llywodraeth Cymru: · Dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol gyda phobl nad ydych yn byw â hwy neu nad ydynt yn eich aelwyd estynedig. · Gwisgo gorchudd wyneb (os ydych yn gallu) ym mhob man cyhoeddus dan do. · Ffurfio aelwyd estynedig gyda dim mwy na dwy aelwyd arall a dylent aros yr un fath. · Peidio â chyfarfod ag unrhyw un heblaw eich aelwyd estynedig dan do. · Peidio â chyfarfod gyda mwy na phump o bobl eraill mewn lleoliadau dan do a reoleiddir, megis caffis, bwytai a thafarndai. · Peidio â chyfarfod â mwy na 29 o bobl yn yr awyr agored gan gynnwys gerddi preifat, mannau cyhoeddus a safleoedd a reoleiddir, gan gadw pellter cymdeithasol. · Gweithio o gartref os ydych yn gallu. · Ceisio peidio â theithio i ardaloedd ble mae nifer uchel o achosion. · Rhaid i chi hunan-ynysu yn syth os oes gennych chi, neu unrhyw un yn eich cartref, symptomau Covid-19 a mynd i gael prawf cyn gynted â phosib. Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Er bod achosion a gadarnhawyd yn Sir Ddinbych wedi bod yn isel, rhaid i ni beidio â bod yn ysgeulus a chofio i ddilyn y canllawiau cenedlaethol. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cadw’r achosion a gadarnhawyd cyn lleied â phosib.” “Rwy’n annog pawb i fod yn agored ac yn onest pan fydd TTP yn cysylltu â chi ac i rannu’r holl wybodaeth perthnasol gyda’r Tracwyr a Chynghorwyr TTP. Os oes gennych unrhyw symptomau Covid, archebwch brawf cyn gynted â phosibl a dilynwch yr holl ganllawiau a dderbyniwyd. Bydd hyn yn cadw pawb yn ddiogel.” “Atgoffir rhieni a gofalwyr i gofio am, a dilyn y rheolau ar ymbellhau cymdeithasol, i olchi eu dwylo’n rheolaidd ac wrth gwrdd â phobl dan do cadwch ffenestri a drysau ar agor i helpu i ddod â’r awyr iach i mewn. Mae’r brechlyn yn parhau i’w gynnig a byddwn yn annog pawb i’w dderbyn. “ “Mae rhieni, gofalwyr, staff a myfyrwyr i gyd wedi aberthu llawer yn ystod y pandemig ac ar ran Cyngor Sir Ddinbych hoffwn ddiolch i chi i gyd. Mae eich cefnogaeth a’ch ymrwymiad wedi bod yn allweddol i ddiogelu cymunedau’r ysgolion a’r gymuned ehangach yn gyffredinol.” Gallwch bellach gael prawf Covid-19 am ddim os oes gennych ystod ehangach o symptomau sy’n cynnwys symptomau tebyg i’r ffliw, na achoswyd gan gyflyrau sy’n wybyddus megis clefyd y gwair, gan gynnwys poen cyhyr, blinder llethol, cur pen parhaus, trwyn yn rhedeg; tisian yn barhaus; dolur gwddf a/neu gryglyd, byr o anadl neu frest dynn; teimlo’n sâl yn gyffredinol. Mae’r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn https://llyw.cymru/coronafeirws a gallwch drefnu prawf yn http://www.gov.uk/get-coronavirus-test , ac i gael mwy o wybodaeth ar yr ystod ehangach o symptomau ewch i https://bipbc.gig.cymru/covid-19/profi-olrhain-diogelu/profi-symptomau-ehangach/ Diolch eto am eich cefnogaeth parhaus Huw Hilditch-Roberts Lead Member for Education, Children’s Services and Public Engagement Geraint Davies Pennaeth Addysg Dros Dro / Interim Head of Education | Dear Parents and Carers Reminder for Parents and Carers to follow guidance and stop coronavirus spread We are reminding Denbighshire parents and carers to follow Covid-19 guidance to help prevent further spread of the virus. With concerns surrounding the spread of the Delta variant, Denbighshire County Council is asking residents, parents and carers to continue to do their part. This includes following current Welsh Government guidance: · Follow social distancing rules with people you do not live with or who are not in your exclusive extended household. · Wear a face covering (if you are able to) in all indoor public places. · Only form an extended household with no more than two other households and they should stay the same. · Not meet with anyone other than your extended household indoors. · Not meet with more than five other people in indoor regulated settings, such as cafes, restaurants and pubs. · Meet no more than 29 other people outdoors, including in private gardens, public spaces and regulated premises, while maintaining social distancing. · Work from home if you can. · Minimise travel to areas of high prevalence. · You must self-isolate immediately if you, or anyone in your home, is showing any Covid-19 symptoms and go for a test as soon as possible. Cllr Huw Hilditch-Roberts, Denbighshire County Council’s Lead Member for Education, Children’s Services and Public Engagement said: “Although confirmed cases in Denbighshire have recently been low we must not become complacent and remember to follow the published guidance. This will ensure we keep confirmed cases to a minimum.” “I urge everybody to be open and truthful when contacted by TTP and to share all the relevant information with the TTP Tracers and Advisors. If you have any Covid symptoms please book a test as soon as possible and follow all guidance received. This will keep everybody safe.” “Parents and carers are reminded to follow and observe social distancing and wash hands regularly and when meeting people indoors keep windows and doors open to help bring in the fresh air. Rollout of the vaccine is continuing and I would encourage everybody offered the vaccine to accept it. “Parents, carers, staff and students have all sacrificed a lot during the pandemic and on behalf of Denbighshire County Council I would like to thank you all. Your support and commitment has been key in protecting our school communities and the wider community in general.” You can now go for a free Covid-19 test if you have a wider range of symptoms which include flu-like symptoms, not caused by a known conditions such as hay fever, including muscle ache or pain, excessive tiredness, persistent headache, runny nose or blocked nose; persistent sneezing; sore throat and/or hoarseness, shortness of breath or wheezing and generally feeling unwell. You can find the latest guidance from Welsh Government at https://gov.wales/coronavirus and you can book a test at http://www.gov.uk/get-coronavirus-test, and for further information on the wider range of symptoms visit https://bcuhb.nhs.wales/covid-19/test-trace-protect/testing-broader-covid-19-symptoms/ Many thanks for your continued support Huw Hilditch-Roberts Lead Member for Education, Children’s Services and Public Engagement Geraint Davies Pennaeth Addysg Dros Dro / Interim Head of Education |