Cyfarfod CRhA * 30.11.22 * PTA Meeting

Bydd Cyfarfod CRhA yn cael ei gynnal yn y Salusbury Arms, Tremeirchion nos yfory am 7:30yh. Croeso cynnes i bawb.

There will be a PTA meeting at the Salusbury Arms, Tremeirchion tomorrow night at 7:30pm. A warm welcome to all.

Newyddion yr wythnos / News this week

Berbeciw CRHA dydd Gwener diwethaf

Cawson barbeciw llwyddiannus iawn yn dilyn ein mabolgampau dydd Gwener diwethaf. Ein gweithgaredd cyntaf ar dechrau’r noson oedd ‘Kick-it’,  gyda dros 40 o blant wedi cymryd rhan. Diolch i GRhA yr ysgol am ariannu’r weithgaredd yma a sicrhau bod pob plentyn yn gallu cymryd rhan am ddim.

Roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl yn bresennol gan gynnwys plant, rhieni, llywodraethwyr, a staff yr ysgol. Ond hefyd roedd nifer o gyn ddisgyblion a’u rhieni ac aelodau o’n cymuned leol yma hefyd. Rwy’n fawr obeithio eich bod wedi mwynhau’r noson. Da oedd gweld cymaint yn cefnogi’r ysgol.

Rhaid diolch i griw bach o rieni a staff yr ysgol ac yn enwedig Mr Meilir Jones cadeirydd CRhA  oedd dros gyfnod o fisoedd, wedi trefnu yr holl noson a’i weithgareddau. Heb gymorth ac ymroddiad y grwp yma ni fuasai dathliad o’r fath yn gallu bodoli. Diolch hefyd i bawb oedd wedi helpu ar y noson, i bawb oedd wedi bod mor garedig a chynnig rhoddion  ar gyfer y raffl, ac i bawb oedd wedi helpu i glirio yn hwyr nos Wener, a nifer oedd wedi dychwelyd pnawn Sadwrn.

Mae CRhA yn awyddus iawn yn awr i gyfarfod gyda Chyngor yr Ysgol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd. Eu bwriad yw i roi cynllun yn ei le er mwyn ein disgyblion. Bydd yr arian a godwyd o’r barbeciw o gymorth mawr i’r ysgol ac wrth gwrs i’r plant eu hunain.

Os ydych eisiau cefnogi yr ysgol a’i phlant y flwyddyn nesaf, bydd croeso mawr i chi ymuno gyda CRHA yr ysgol.

Sioe Wledig Ysgol Tremeirchion

Mae’r plant wrthi’n brysur iawn yn paratoi ar gyfer ein sioe wledig wythnos nesaf. Maent eisoes wedi cynllunio rhaglen o weithgareddau amrywiol a mynd a’u rhaglen adref ddoe i ddangos i chi. Yn ogystal roedd llythyr wedi ei roi i’r plant yn amlinellu nifer o weithgareddau iddynt eu gwneud adref. Mae pump gweithgaredd i gyd, ond nid oes disgwyl iddynt wneud pob un os nad ydynt yn dymuno. Bydd angen dychwelyd unrhyw waith erbyn dydd Iau 14 Gorffennaf. Byddwn yn rhannu lluniau gyda chi ar ddiwedd ein cynllun.

Bydd ein sioe wledig yn cynnwys ymweliad gan fan hufen ia ac hefyd consuriwr. Diolch eto i CRHA yr ysgol am dalu’r costau. Hufen ia am ddim felly i bob plentyn.

Llythyr gweithgareddau sioe wledig2

Ymweliad Mr Geraint Jones

Dydd Llun bu Mr Geraint Jones, pennaeth newydd Ysgol Tremeirchion mis Medi yn ymweld âr ysgol. Bu ar daith o gwmpas y dosbarthiadau a chyfarfod y staff a’r plant. Ymunodd Mr Jones yn ein cyfarfod staff ar ôl ysgol. Bwriad Mr Jones yw dychwelyd i’r ysgol eto cyn diwedd ein tymor. Diolch i bawb am ei groesawu.

Hwdi Bl 6

Roedd yn hyfryd gweld plant bl 6 yn eu hwdi newydd heddiw. Rwy’n gobeithio eu bod wedi plesio. Bydd y plant yn gwisgo’r hwdi am weddill y tymor s mai dyma yw eu dymuniad. Maent yn edrych yn wych. Diolch i Iona ein hysgrifenyddes am wneud y trefniadau i gyd.


PTA Barbeque

We had a very successful barbeque on Friday following our sports day. Our first activity was ‘Kick-it’, with over 40 children taking part. Thank you to the PTA for funding this event and allowing all the children to take part for free.

It was lovely seeing so many people at our barbeque, including children, parents, governors and staff. There were also a number of past parents and children as well as members of our community in attendance. IU hope you enjoyed the evening. Great to see so many supporting the school.

We must thank the small group of parents and staff and especially Mr Meilir Jones the chairperson of the PTA, who over many months organised the evening and the activities. Without their support and commitment, a celebration like this would not take place. Thank you also to all the people who helped us during the evening, for the generosity of those who provided donations for the raffle, and to all those who helped clear at the end of the evening, as well as returning on Saturday afternoon.

The PTA are now keen to meet with the School Council at the start of the new academic year. They will put together a plan with the pupils. The money raised from the barbeque will really help the school and of course the pupils themselves.

If you would like to support the school and its children next year, you are more than welcome to join the PTA.

Ysgol Tremeirchion Country Show

The children are very busy this week preparing for our country show next week. They have already designed a programme of different activities and took this home yesterday to show parents. They were also given a letter which outlined a number of activities they can do at home. There are five in total but we do not expect anyone to do them all if they don’t wish to do so. All work will need to be returned to the school by Thursday 14 July. We will share photographs with you at the end of the project.

During our show we have organised an ice cream van and a magician to  visit the school. Thank you again to the PTA for funding this activity. Its therefore a free ice cream for all the children.

Llythyr gweithgareddau sioe wledig2

A visit from Mr Geraint Jones

On Monday, Mr Geraint Jones, the new headteacher of Ysgol Tremeirchion in September visited the school. He visited all the classrooms and said hello to all the children. Mr Jones also joined our staff meeting. Mr Jones will return to the school before the end of the term. Thank you to everyone for making him welcome.

Year 6 Hoodie

It was fantastic seeing all our year 6 pupils in their hoodie today. I hope they are pleased with them. The children will wear their hoodies until the end of term if they wish to do so. Thank you to Iona our secretary for making all the arrangements.

 

 

 

Edrych ymlaen i’r mabolgampau a’r Barbeciw Haf fory / Looking forward to Sports Day and Barbeque tomorrow

Rydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb i’r mabolgampau a’r barbeciw fory. Mae’r sesiwn mabolgampau pnawn yn dechrau am 1.00 ac yn gorffen am 3.00. Bydd Kick-it am ddim tan 4.15 i blant sydd wedi cofrestru, yn dilyn y mabolgampau ac yna bydd y barbeciw yn dechrau am 4.30. Diolch i bawb sydd wedi dychwelyd y tocynnau raffl ac arian. Rhai negeseuon i’ch atgoffa:

  • mae parcio wedi ei drefnu ar y cae gyferbyn ar ysgol (cae Juno). Nid oes parcio dros nos. Ni fydd unrhyw gyfrifoldeb am ddamwain na difrod i geir sydd wedi parcio ar y cae.
  • Mabolgampau pnawn i dechrau am 1.00
  • Ar ddiwedd ein mabolgampau byddwn yn trefnu i blant tacsi adael safle yr ysgol yn gyntaf. Gofynnwn i rieni sydd ar safle’r ysgol i barchu’r ffaith ein bod yn gofyn i chi a’ch plentyn aros i bob tacsi adael y buarth cyn i chi adael y safle ac nid gofyn i fynd yn gynnar.
  • Rydym yn edrych am wirfoddolwyr i helpu gyda’r mabolgampau e.e. ar ddiwedd y trac. Siaradwch gydag aelod o staff os ydych ar gael.
  • Yn ystod y barbeciw rydym yn gofyn i rieni fod yn gyfrifol am eu plant eu hunain.

PWYSIG- A WNEWCH CHI SICRHAU BOD EICH PLENTYN YN GWYBOD BETH YW EU TREFNIADAU NHW AR DDIWEDD Y MABOLGAMPAU e.e. adref ar y tacsi, aros i kick-it, adref efo rhieni.

Rydym yn fawr obeithio y byddwch yn mwynhau’r pnawn a’r min nos yn ein cwmni. Diolch i bawb sydd wedi bod mor weithgar yn paratoi ar gyfer y diwrnod ac i bawb sydd wedi bod mor glên yn cynnig rhoddion, eu hamser a chyfrannu tuag at y barbeciw.

Rhaid diolch yn fawr iawn i Mr Meilir Jones, Cadeirydd CRhA yr ysgol a’r grwp o rieni sydd wedi bod yn gyfrifol am y trefniadau. Ni fedrwn wneud dim fel hyn heb eich cefnogaeth chi.


We are looking forward to welcoming you to the sports day and barbeque tomorrow. The afternoon session for sports day will start at 1.00pm and will finish at 3.00. Free ‘Kick-it’ will be available to those children who have registered on-line and will finish at 4.15 followed by the Barbeque at 4.30. Thank you to everyone that has returned their tickets and money.

Notes to remand you:

  • Parking is available in the field opposite the school (Juno’s field). There is no overnight parking. No responsibility will be taken for any accidents or damage to cars parked on the field.
  • Sports Day will start at 1.00pm
  • At the end of sports day we will arrange for pupils going home on a taxi to leave the school first. We are asking parents to please respect that we are asking you and your child to wait until all taxis have left the school site and not ask staff if you can go early.
  • We are looking for volunteers to help during sports day e.g. at the end of the track. Please speak to a member of staff if you are available.
  • During the barbeque parents are responsible for their children

IMPORTANT – PLEASE ENSURE THAT YOUR CHILD KNOWS THE ARRANGEMENTS FOR THEM AT THE END OF SPORTS DAY e.g. going home on the taxi, staying for kick-it, home with parents

We hope that you will enjoy your afternoon and evening with us. Thank you to everyone who has supported and helped to arrange the day, and to everyone who has been so kind donating, giving up their time and contributing to the barbeque.

I would also like to thank Mr Meilir Jones , Chairperson of the PTA and the group of parents who have been responsible for all the arrangements. We can’t do things like this without your support.

 

Cofiwch ddychwelyd eich tocynnau raffl / Please remember to return the raffle tickets

Neges gan CRHA / Message from the PTA

Diolch i bawb sydd wedi gwerthu a dychwelyd yr arian a’r tocynnau raffl haf ar gyfer y Barbeciw nos Wener. Mae dros £600 o wobrau yn cynnwys:

1af – Nintendo Switch Lite gwerth £200 ( rhodd gan Bob Francis Crane Hire)

2il- Hamper moethus gwerth £150 ( rhodd gan HVAC Recruitment Ltd

3ydd – Arian parod gwerth £100

4ydd- Berfa llawn cwrw

5ed – 2 x taleb spa gwerth £40 ‘r White House (rhodd gan Ceri Whiteley)

6ed – Hamper Body Shop gwerth £40 (rhodd gan Hannah Bates)

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu gwobrau uchod.

A fedrwch chi ddychwelyd y tocynnau erbyn fory, neu fan bellaf bore dydd Iau. 


Thank you to everyone that has sold and returned the raffle tickets for the summer BBQ on Friday. There are over £600 in prizes and include:

1st – Nintendo Switch Lite worth £200 ( donated by Bod Francis Crane Hire)

2nd- £150 Luxury Hamper (donated by HVAC Recruitment Ltd)

3rd- £100 cash

4th – wheelbarrow full of beer

5th – 2 a White House spa passes worth £40 ( donated by Ceri Whiteley)

6th- £40 Body Shop hamper (donated by Hannah Bates)

Thank you to everyone for their donations.

Please return your tickets by tomorrow or at the very latest on Thursday

Neges gan Cymdeithas Rhieni ac Athrawon / Message from the PTA

Dim ond 16 lle sydd ar ôl ar y ‘Sesiwn Kick-It AM DDIM’ (3.15yp tan 4.15yp) sy’n cael ei gynnal cyn y Barbeciw Nos Wener yma, 1af o Orffennaf .

Felly, i arbed siomiant, cofiwch archebu lle i’ch plentyn mor fuan â phosib – https://bookwhen.com/kickitsports#focus=ev-szzt-20220701151500

Diolch yn fawr.

There are only 16 places available on the ‘FREE Kick-It session’ (3.15pm – 4.15pm) which is held before the BBQ this Friday, 1st July.

Therefore, to avoid disappointment, please book your child’s place as soon as possible – https://bookwhen.com/kickitsports#focus=ev-szzt-20220701151500

Thank you.

Stondin Cacennau / Cake Stall 24.6.22

Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein stondin gacennau heddiw. Diolch i chi am fod mor brysur yn coginio,prynu a paratoi y cacennau. Diolch i’r disgyblion, rhieni a staff am brynu cacennau. Diolch hefyd i’r cyngor ysgol am drefnu y stondin gacennau. Cawsom ddiwrnod llwyddiannus iawn yn casglu arian tuag at taith Anti Nia i Gambia, Affrica yn yr haf. Byddwn yn rhannu faint o arian a gasglwyd wythnos nesaf. Diolch

Thank you to everyone who supported the cake stall today. Thank you for baking the cakes, buying and preparing the cakes. Thank you to the pupils, parents and staff for buying cakes. Thank you to the school council for arranging the stall. We had a successful day collecting money towards Nia’s journey to Gambia, Africa this summer. We will share how much money that has been raised next week. Diolch

Barbeciw Haf CRhA * 01.07.22 * PTA Summer BBQ

Gweler poster ar gyfer yr uchod gyda’r ddolen ar sut i archebu lle ar y Sesiwn Kick-It fydd AM-DDIM! (3.15yp tan 4.15yp).

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Barbeciw!

POSTER BBQ CYMRAEG

Please see poster for the above together with the link to booking the FREE Kick-It Session! (3.15pm till 4.15pm).

We look forward to seeing you at the BBQ!

POSTER BBQ SAESNEG