Berbeciw CRHA dydd Gwener diwethaf
Cawson barbeciw llwyddiannus iawn yn dilyn ein mabolgampau dydd Gwener diwethaf. Ein gweithgaredd cyntaf ar dechrau’r noson oedd ‘Kick-it’, gyda dros 40 o blant wedi cymryd rhan. Diolch i GRhA yr ysgol am ariannu’r weithgaredd yma a sicrhau bod pob plentyn yn gallu cymryd rhan am ddim.
Roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl yn bresennol gan gynnwys plant, rhieni, llywodraethwyr, a staff yr ysgol. Ond hefyd roedd nifer o gyn ddisgyblion a’u rhieni ac aelodau o’n cymuned leol yma hefyd. Rwy’n fawr obeithio eich bod wedi mwynhau’r noson. Da oedd gweld cymaint yn cefnogi’r ysgol.
Rhaid diolch i griw bach o rieni a staff yr ysgol ac yn enwedig Mr Meilir Jones cadeirydd CRhA oedd dros gyfnod o fisoedd, wedi trefnu yr holl noson a’i weithgareddau. Heb gymorth ac ymroddiad y grwp yma ni fuasai dathliad o’r fath yn gallu bodoli. Diolch hefyd i bawb oedd wedi helpu ar y noson, i bawb oedd wedi bod mor garedig a chynnig rhoddion ar gyfer y raffl, ac i bawb oedd wedi helpu i glirio yn hwyr nos Wener, a nifer oedd wedi dychwelyd pnawn Sadwrn.
Mae CRhA yn awyddus iawn yn awr i gyfarfod gyda Chyngor yr Ysgol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd. Eu bwriad yw i roi cynllun yn ei le er mwyn ein disgyblion. Bydd yr arian a godwyd o’r barbeciw o gymorth mawr i’r ysgol ac wrth gwrs i’r plant eu hunain.
Os ydych eisiau cefnogi yr ysgol a’i phlant y flwyddyn nesaf, bydd croeso mawr i chi ymuno gyda CRHA yr ysgol.
Sioe Wledig Ysgol Tremeirchion
Mae’r plant wrthi’n brysur iawn yn paratoi ar gyfer ein sioe wledig wythnos nesaf. Maent eisoes wedi cynllunio rhaglen o weithgareddau amrywiol a mynd a’u rhaglen adref ddoe i ddangos i chi. Yn ogystal roedd llythyr wedi ei roi i’r plant yn amlinellu nifer o weithgareddau iddynt eu gwneud adref. Mae pump gweithgaredd i gyd, ond nid oes disgwyl iddynt wneud pob un os nad ydynt yn dymuno. Bydd angen dychwelyd unrhyw waith erbyn dydd Iau 14 Gorffennaf. Byddwn yn rhannu lluniau gyda chi ar ddiwedd ein cynllun.
Bydd ein sioe wledig yn cynnwys ymweliad gan fan hufen ia ac hefyd consuriwr. Diolch eto i CRHA yr ysgol am dalu’r costau. Hufen ia am ddim felly i bob plentyn.
Llythyr gweithgareddau sioe wledig2
Ymweliad Mr Geraint Jones
Dydd Llun bu Mr Geraint Jones, pennaeth newydd Ysgol Tremeirchion mis Medi yn ymweld âr ysgol. Bu ar daith o gwmpas y dosbarthiadau a chyfarfod y staff a’r plant. Ymunodd Mr Jones yn ein cyfarfod staff ar ôl ysgol. Bwriad Mr Jones yw dychwelyd i’r ysgol eto cyn diwedd ein tymor. Diolch i bawb am ei groesawu.
Hwdi Bl 6
Roedd yn hyfryd gweld plant bl 6 yn eu hwdi newydd heddiw. Rwy’n gobeithio eu bod wedi plesio. Bydd y plant yn gwisgo’r hwdi am weddill y tymor s mai dyma yw eu dymuniad. Maent yn edrych yn wych. Diolch i Iona ein hysgrifenyddes am wneud y trefniadau i gyd.
PTA Barbeque
We had a very successful barbeque on Friday following our sports day. Our first activity was ‘Kick-it’, with over 40 children taking part. Thank you to the PTA for funding this event and allowing all the children to take part for free.
It was lovely seeing so many people at our barbeque, including children, parents, governors and staff. There were also a number of past parents and children as well as members of our community in attendance. IU hope you enjoyed the evening. Great to see so many supporting the school.
We must thank the small group of parents and staff and especially Mr Meilir Jones the chairperson of the PTA, who over many months organised the evening and the activities. Without their support and commitment, a celebration like this would not take place. Thank you also to all the people who helped us during the evening, for the generosity of those who provided donations for the raffle, and to all those who helped clear at the end of the evening, as well as returning on Saturday afternoon.
The PTA are now keen to meet with the School Council at the start of the new academic year. They will put together a plan with the pupils. The money raised from the barbeque will really help the school and of course the pupils themselves.
If you would like to support the school and its children next year, you are more than welcome to join the PTA.
Ysgol Tremeirchion Country Show
The children are very busy this week preparing for our country show next week. They have already designed a programme of different activities and took this home yesterday to show parents. They were also given a letter which outlined a number of activities they can do at home. There are five in total but we do not expect anyone to do them all if they don’t wish to do so. All work will need to be returned to the school by Thursday 14 July. We will share photographs with you at the end of the project.
During our show we have organised an ice cream van and a magician to visit the school. Thank you again to the PTA for funding this activity. Its therefore a free ice cream for all the children.
Llythyr gweithgareddau sioe wledig2
A visit from Mr Geraint Jones
On Monday, Mr Geraint Jones, the new headteacher of Ysgol Tremeirchion in September visited the school. He visited all the classrooms and said hello to all the children. Mr Jones also joined our staff meeting. Mr Jones will return to the school before the end of the term. Thank you to everyone for making him welcome.
Year 6 Hoodie
It was fantastic seeing all our year 6 pupils in their hoodie today. I hope they are pleased with them. The children will wear their hoodies until the end of term if they wish to do so. Thank you to Iona our secretary for making all the arrangements.