Gwybodaeth am Sioe Nadolig Ysgol Tremeirchion / Information about Ysgol Tremeirchion’s Christmas Show

Rydym yn edrych ymlaen at ein Sioe Nadolig yn Neuadd y Dref, Dinbych ar nos Fawrth, Rhagfyr 20fed.  Bydd y Sioe yn cychwyn am 6:00pm, gofynnwn yn garedig i’r plant gyrraedd Neuadd y Dref yn eu gwisgoedd am 5:30pm. 

Ar ddiwrnod y sioe bydd y plant i gyd yn mynd i Neuadd y Dref mewn bws i ymarfer.  Byddwn yn gadael yr ysgol am 10:30am ac yn dychwelyd i’r ysgol erbyn 3:00pm.  Ni fydd gegin yr ysgol ar agor felly a wnewch chi sicrhau eich bod yn darparu pecyn bwyd i’ch plentyn.

Yn ddelfrydol, hoffem i blant y Meithrin aros i ymarfer drwy’r dydd dan ofal Anti Sylvia a staff eraill yr ysgol.  Os nad yw hyn yn bosib, mae croeso i chi gasglu eich plentyn o’r ysgol am 11:30am neu i’ch plentyn fynychu’r Cylch Meithrin dan ofal Anti Rhian ac Anti Helen.  Os oes gennych blentyn yn y Meithrin, a wnewch chi gwblhau’r bonyn sydd ar waelod y llythyr rydych wedi derbyn heddiw a’i ddychwelyd i’r ysgol erbyn dydd Iau, Rhagfyr 15fed, os gwelwch yn dda.

Cofiwch mai dydd Llun, Rhagfyr 12fed yw’r diwrnod olaf i archebu tocynnau sydd wedi eu dyrannu i bob teulu.  Bydd unrhyw docynnau dros ben yn cael eu rhyddhau a’u gwerthu ar sail y cyntaf i’r felin ar ddydd Mercher, Rhagfyr 14eg.  Byddwn yn anfon unrhyw docynnau wedi eu prynu adref ar ddydd Gwener, Rhagfyr 16eg.

Os ydych angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r ysgol os gwelwch yn dda.


We’re looking forward to our Christmas Show at the Town Hall, Denbigh on Tuesday, December 20th.  The show will start at 6:00pm and we kindly ask you to bring the children to the Town Hall dressed in their costumes at 5:30pm. 

On the day of the show the children will be going to the Town Hall on a bus to rehearse.  We’ll be leaving school at 10:30am and returning to school by 3:00pm.  The school kitchen will be closed therefore please ensure that your child has a packed lunch.

Ideally, we would like the Nursery children to stay all day to rehearse under the care of Anti Sylvia and other school staff.  If this is not possible, you are welcome to collect your child from school at 11:30am or for your child to attend Cylch Meithrin under the care of Anti Rhian and Anti Helen.  If you have a child in Nursery class, please complete the form on the bottom of the letter you have received today and return it to school by Thursday, December 15th.

Remember that Monday, December 12th is the last day to order tickets that have been allocated to each family.  Any surplus tickets will be released and sold on a first come, first served basis on Wednesday, December 14th.  We will send home any purchased tickets on Friday, December 16th.

If you require any further information, please contact the school.

Gweithgareddau Diweddar / Recent Activities

Twrnamaint Pêl-droed Dyffryd Clwyd / Vale of Clwyd Football Tournament

Bu nifer o ddisgyblion hŷn yr ysgol yn cynrychioli’r ysgol mewn twrnamaint pêl-droed yn Rhuthun yn ddiweddar. Da iawn chi am weithio’n wych fel tîm.

A number of the school’s older pupils represented the school in a football tournament in Ruthin recently. Well done for working brilliantly as a team.


Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth / Showing Racism the Red Card

Ar ddiwrnod gêm bêl-droed Cymru v Iran, bu’r disgyblion yn cwblhau gweithgareddau Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith yr elusen.

On the day of the Wales v Iran football match, the pupils completed Show Racism the Red Card activities in order to raise awareness of the charity’s work.


Dydd Arwyr y Rhyngrwyd / Be Internet Legend Day

Roedd hi’n Ddydd Arwyr y Rhyngrwyd ar Ragfyr 8fed. Ymunodd disgyblion hŷn yr ysgol â gwasanaeth rhithiol gyda Parent Zone a Google cyn mynd ati i gwblhau gweithgareddau. Mae mwy o wybodaeth ar gael i rieni yma: Online Safety Tips for Parents – Be Internet Legends

It was Be Internet Legends Day on December 8th. The school’s older pupils joined a virtual assembly with Parent Zone and Google before completing activities. Information for parents can be found here: Online Safety Tips for Parents – Be Internet Legends


Gweithdy Drymiau / Drums Workshop

Diolch i’r Parchedig Carol Thomas o’r Esgobaeth am gynnal gweithdy drymiau gyda’n disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6. Roedd pawb wedi mwynhau’n fawr.

Thanks to Reverend Carol Thomas from the Diocese for leading a drums workshop with our Year 5 and Year 6 pupils. Everyone thoroughly enjoyed the session.


CogUrdd

Llongyfarchiadau i Ela o Flwyddyn 4 am gynrychioli’r ysgol yng nghystadleuaeth CogUrdd yn Ysgol Uwchradd y Rhyl yn ddiweddar. Roedd Ela’n cystadlu yn Rownd Rhanbarth Dinbych ac roedd canmol mawr i’r Frechdan Fendigedig!

Congratulations to Ela from Year 4 for representing the school in the CogUrdd competition at Rhyl High School recently. Ela was competing in the Denbigh Regional Round and her Splendid Sandwich was commended!

Archebu Tocynnau Sioe Nadolig / Ordering Christmas Show Tickets

Cofiwch mai yfory (12/12/2022) yw’r diwrnod olaf i chi archebu tocynnau i’r Sioe Nadolig. Mae mwy o wybodaeth isod.

A reminder that tomorrow (12/12/2022) is the last day for you to order tickets for the Christmas Show. More information can be found below.

Sioe Nadolig Ysgol Tremeirchion Christmas Show

Cynhelir Sioe Nadolig Ysgol Tremeirchion eleni yn Neuadd y Dref, Dinbych ar nos Fawrth, Rhagfyr 20fed am 6:00pm.  Mae cost llogi’r neuadd oddeutu £200 a bydd angen talu hefyd am fws i gludo disgyblion a staff i ymarfer yno ar yr un diwrnod.

Er mwyn talu rhai o’r costau rydym wedi penderfynu gwerthu tocynnau ar gyfer y perfformiad.  Cost y tocynnau yw £2 yr un i oedolion ac am ddim i blant o dan 18.  Rydym wedi dyrannu 6 tocyn i bob teulu gydag unrhyw docynnau sbâr yn cael eu rhyddhau a’u gwerthu ar sail y cyntaf i’r felin.  Gallwch archebu tocynnau drwy ParentPay (cyfrif eich plentyn hynaf) tan ddydd Llun, Rhagfyr 12fed.  Nodwch yn yr adran ‘Notes’ y nifer o docynnau oedolyn a phlentyn yr hoffech archebu, hyd at uchafswm o 6 tocyn.  Gofynnwn yn garedig i chi dalu £2 am bob tocyn oedolyn, er enghraifft, os ydych yn archebu 3 tocyn oedolyn a 3 thocyn plentyn, talwch £6, os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.


Ysgol Tremeirchion’s Christmas Show this year will be held at Denbigh Town Hall on Tuesday, December 20th at 6:00pm.  The cost of hiring the hall is around £200 and we will also need to pay for a coach to transport pupils and staff for a rehearsal on the same day.

In order to cover some of these costs we have decided to sell tickets for the performance.  The tickets cost £2 each for adults and free for children under 18.  We have allocated 6 tickets per family with any spare tickets released closer to the date and sold on a first come, first served basis.  You’re able to order tickets using ParentPay (your eldest child’s account) until Monday, December 12th.  Please specify in the ‘Notes’ section how many adult and child tickets you would like to order, up to a maximum of 6 tickets.  Please pay £2 for each adult ticket, for example, if you order 3 adult tickets and 3 child tickets, please pay £6.

Thank you for your cooperation.

Ein Coeden Nadolig / Our Christmas Tree

Diolch yn fawr iawn i deulu Fferm Meadow Brook, Mark, George, Clare a Gruff, am y rhodd o goeden Nadolig eto eleni. Mae’r goeden yn edrych yn fendigedig ar fuarth blaen yr ysgol.

Thank you so much to the Meadow Brook Farm Family, Mark, George, Clare and Gruff, for the gift of a Christmas tree again this year. The tree looks wonderful on the front yard.

Cystadleuaeth Gelf Nadolig Eglwys Bodfari / Bodfari Church Christmas Art Competition

Mae nifer o ddisgyblion yr ysgol wedi cystadlu yng nghystadleuaeth gelf Nadolig Eglwys Bodfari. Mae arddangosfa o’r holl waith yn Eglwys Bodfari. Mae Noson Caws a Gwin yn cael ei chynnal yn yr Eglwys heno, Rhagfyr 9fed. Mae’r Noson yn cychwyn am 6:30pm a chost mynediad yw £7.50. Mae’r Eglwys yn estyn croeso cynnes i bawb.

A number of the school’s pupils have competed in the Bodfari Church Christmas art competition. There is an exhibition of all the work in Bodfari Church. A Cheese and Wine Evening is being held in the Church tonight, December 9th. The Evening starts at 6:30pm and entry cost is £7.50. The Church extends a warm welcome to everyone.