Mae wedi bod yn flwyddyn bryderus i lawer o oedolion, plant a phobl ifanc fel ei gilydd. Rydym ni’n gwybod fod llawer ohonoch chi’n poeni am effaith y pandemig ar eich plant.
CWRS NEWYDD SBON!! Cwrs ar-lein ‘Deall iechyd meddwl a lles eich plentyn’ gan Solihull Approach (GIG).
Mynediad am ddim:
Oeddech chi’n gwybod fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi TALU-O FLAEN LLAW i bob rhiant a gofalwr yng Nghymru i gael mynediad i gwrs rieni / gofalwyr (mynediad nawr ar gyfer mynediad gydol oes)? AM DDIM (gyda chôd mynediad: NWSOL yn: https://inourplace.co.uk/) ar gyfer preswylwyr yn ein hardal. Mae cyrsiau ar gyfer rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau ynghylch plant o bump i 19+ oed.
Sut mae cael mynediad?
www.inourplace.co.uk
Beth yw’r côd?
- Os nad ydych wedi ei ddefnyddio eisoes dyma gôd mynediad yr holl gyrsiau ar-lein (wedi’i hariannu ar gyfer preswylwyr): NWSOL
- Os ydych chi, fel llawer o rieni, eisoes wedi defnyddio’r côd hwn, mewngofnodwch i’ch cyfrif yma a bydd y cwrs yma’n barod yn eich dangosfwrdd i ddechrau pryd bynnag y byddwch chi’n barod.
Allai ddweud wrth fy nheulu a ffrindiau?
Cewch! Rhannwch y newyddion gydag aelodau o’ch teulu a theuluoedd eraill yn yr ardal fel y gallant hwythau hefyd fanteisio ar y cyfle gwych yma.
Pa mor hir ydy o?
Mae ‘Deall iechyd meddwl a lles eich plentyn’ ei hun mewn 2 ran (cyfanswm o 2 fodiwl):
1….Cwblhewch Ran 1….
2.… yna cymerwch ‘Deall eich plentyn’ NEU ‘Deall eich plentyn ag anghenion ychwanegol’ (11 modiwl yr un yn cymryd 10-15 munud i’w gwblhau, gan elwa o amser i dreulio’r cynnwys rhyngddynt)….
3.… yna cwblhewch Ran 2.
Os ydych chi’n hoff o hyn …
… Efallai yr hoffech chi’r cyrsiau eraill
‘Deall ymennydd yr arddegau’ (cwrs byr) neu ‘Deall teimladau eich plentyn’ (cwrs blasu), neu gyrsiau eraill yn y gyfres. https://inourplace.co.uk/