Rydym yn edrych ymlaen at ein Sioe Nadolig yn Neuadd y Dref, Dinbych ar nos Fawrth, Rhagfyr 20fed. Bydd y Sioe yn cychwyn am 6:00pm, gofynnwn yn garedig i’r plant gyrraedd Neuadd y Dref yn eu gwisgoedd am 5:30pm.
Ar ddiwrnod y sioe bydd y plant i gyd yn mynd i Neuadd y Dref mewn bws i ymarfer. Byddwn yn gadael yr ysgol am 10:30am ac yn dychwelyd i’r ysgol erbyn 3:00pm. Ni fydd gegin yr ysgol ar agor felly a wnewch chi sicrhau eich bod yn darparu pecyn bwyd i’ch plentyn.
Yn ddelfrydol, hoffem i blant y Meithrin aros i ymarfer drwy’r dydd dan ofal Anti Sylvia a staff eraill yr ysgol. Os nad yw hyn yn bosib, mae croeso i chi gasglu eich plentyn o’r ysgol am 11:30am neu i’ch plentyn fynychu’r Cylch Meithrin dan ofal Anti Rhian ac Anti Helen. Os oes gennych blentyn yn y Meithrin, a wnewch chi gwblhau’r bonyn sydd ar waelod y llythyr rydych wedi derbyn heddiw a’i ddychwelyd i’r ysgol erbyn dydd Iau, Rhagfyr 15fed, os gwelwch yn dda.
Cofiwch mai dydd Llun, Rhagfyr 12fed yw’r diwrnod olaf i archebu tocynnau sydd wedi eu dyrannu i bob teulu. Bydd unrhyw docynnau dros ben yn cael eu rhyddhau a’u gwerthu ar sail y cyntaf i’r felin ar ddydd Mercher, Rhagfyr 14eg. Byddwn yn anfon unrhyw docynnau wedi eu prynu adref ar ddydd Gwener, Rhagfyr 16eg.
Os ydych angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r ysgol os gwelwch yn dda.
We’re looking forward to our Christmas Show at the Town Hall, Denbigh on Tuesday, December 20th. The show will start at 6:00pm and we kindly ask you to bring the children to the Town Hall dressed in their costumes at 5:30pm.
On the day of the show the children will be going to the Town Hall on a bus to rehearse. We’ll be leaving school at 10:30am and returning to school by 3:00pm. The school kitchen will be closed therefore please ensure that your child has a packed lunch.
Ideally, we would like the Nursery children to stay all day to rehearse under the care of Anti Sylvia and other school staff. If this is not possible, you are welcome to collect your child from school at 11:30am or for your child to attend Cylch Meithrin under the care of Anti Rhian and Anti Helen. If you have a child in Nursery class, please complete the form on the bottom of the letter you have received today and return it to school by Thursday, December 15th.
Remember that Monday, December 12th is the last day to order tickets that have been allocated to each family. Any surplus tickets will be released and sold on a first come, first served basis on Wednesday, December 14th. We will send home any purchased tickets on Friday, December 16th.
If you require any further information, please contact the school.