Gweithgareddau Diweddar / Recent Activities

Twrnamaint Pêl-droed Dyffryd Clwyd / Vale of Clwyd Football Tournament

Bu nifer o ddisgyblion hŷn yr ysgol yn cynrychioli’r ysgol mewn twrnamaint pêl-droed yn Rhuthun yn ddiweddar. Da iawn chi am weithio’n wych fel tîm.

A number of the school’s older pupils represented the school in a football tournament in Ruthin recently. Well done for working brilliantly as a team.


Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth / Showing Racism the Red Card

Ar ddiwrnod gêm bêl-droed Cymru v Iran, bu’r disgyblion yn cwblhau gweithgareddau Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith yr elusen.

On the day of the Wales v Iran football match, the pupils completed Show Racism the Red Card activities in order to raise awareness of the charity’s work.


Dydd Arwyr y Rhyngrwyd / Be Internet Legend Day

Roedd hi’n Ddydd Arwyr y Rhyngrwyd ar Ragfyr 8fed. Ymunodd disgyblion hŷn yr ysgol â gwasanaeth rhithiol gyda Parent Zone a Google cyn mynd ati i gwblhau gweithgareddau. Mae mwy o wybodaeth ar gael i rieni yma: Online Safety Tips for Parents – Be Internet Legends

It was Be Internet Legends Day on December 8th. The school’s older pupils joined a virtual assembly with Parent Zone and Google before completing activities. Information for parents can be found here: Online Safety Tips for Parents – Be Internet Legends


Gweithdy Drymiau / Drums Workshop

Diolch i’r Parchedig Carol Thomas o’r Esgobaeth am gynnal gweithdy drymiau gyda’n disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6. Roedd pawb wedi mwynhau’n fawr.

Thanks to Reverend Carol Thomas from the Diocese for leading a drums workshop with our Year 5 and Year 6 pupils. Everyone thoroughly enjoyed the session.


CogUrdd

Llongyfarchiadau i Ela o Flwyddyn 4 am gynrychioli’r ysgol yng nghystadleuaeth CogUrdd yn Ysgol Uwchradd y Rhyl yn ddiweddar. Roedd Ela’n cystadlu yn Rownd Rhanbarth Dinbych ac roedd canmol mawr i’r Frechdan Fendigedig!

Congratulations to Ela from Year 4 for representing the school in the CogUrdd competition at Rhyl High School recently. Ela was competing in the Denbigh Regional Round and her Splendid Sandwich was commended!

Cystadleuaeth Gelf Nadolig Eglwys Bodfari / Bodfari Church Christmas Art Competition

Mae nifer o ddisgyblion yr ysgol wedi cystadlu yng nghystadleuaeth gelf Nadolig Eglwys Bodfari. Mae arddangosfa o’r holl waith yn Eglwys Bodfari. Mae Noson Caws a Gwin yn cael ei chynnal yn yr Eglwys heno, Rhagfyr 9fed. Mae’r Noson yn cychwyn am 6:30pm a chost mynediad yw £7.50. Mae’r Eglwys yn estyn croeso cynnes i bawb.

A number of the school’s pupils have competed in the Bodfari Church Christmas art competition. There is an exhibition of all the work in Bodfari Church. A Cheese and Wine Evening is being held in the Church tonight, December 9th. The Evening starts at 6:30pm and entry cost is £7.50. The Church extends a warm welcome to everyone.

Gwasanaeth Blynyddoedd 3 a 4 / Years 3 & 4 Assembly

Diolch i ddisgyblion Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4 am gynnal gwasanaeth pwerus i gloi Wythnos Gwrth-Fwlio.

Thanks to Year 3 and Year 4 pupils for presenting a powerful assembly to bring Anti-Bullying Week to a close.

Dydd y Cofio / Remembrance Day

Roedd ymddygiad pob un disgybl yn ysblennydd yn ystod y cyfnod o dawelwch ger y Gofeb am 11 o’r gloch y bore ‘ma.

Yn ystod y prynhawn daeth y Parchedig Rebecca Sparey-Taylor i ymuno â ni yn ein gwasanaeth yn yr Eglwys. Eglurodd y Parchedig bwysigrwydd cofio am ddigwyddiadau yn ein bywydau ond hefyd yr aberthau a wnaed ar faes y gad.


The children impeccably observed the two-minute silence near the War Memorial at 11 o’clock this morning.

During the afternoon we were joined by Reverend Rebecca Sparey-Taylor in our assembly at the Church. Reverend Sparey-Taylor explained the importance of remembering events in our lives but also the sacrifices made on the battlefield.

Gwasanaeth Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 / Years 5 & 6 Assembly

Diolch yn fawr i ddisgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 am gynnal gwasanaeth i’r ysgol y prynhawn ‘ma. Cawsom glywed am ddoniau’r disgyblion a dathlu bod pawb yn wahanol.

A big thank you to our Year 5 and Year 6 pupils for their assembly this afternoon. We heard about their talents and celebrated that everyone is different.

Gwasanaeth Blwyddyn 2 gyda Dylan Cernyw / Year 2 Assembly with Dylan Cernyw

Mae Blwyddyn 2 wedi bod yn ‘crwydro’ Cymru ac ar hyd y daith yn dysgu am ein diwylliant.  Cyflwynodd y disgyblion y telynor enwog Dylan Cernyw i weddill yr ysgol yn ein gwasanaeth y prynhawn ‘ma.  Cawsom amser hudolus yn yr Egwlys yn gwrando ar Dylan Cernyw yn canu’r delyn.  Diolch i Mrs Ellis am drefnu’r ymweliad.

Year 2 have been ‘wandering’ around Wales and along the way learning about our culture.  The pupils introduced the famous harpist Dylan Cernyw to the rest of the school in our assembly this afternoon.  We had a magical time in the Church listening to Dylan Cernyw playing the harp.  Thanks to Mrs Ellis for organising the visit.

Gwasanaeth Diolchgarwch / Thanksgiving Service

Diolch yn fawr i’r holl blant am gyflwyno gwasanaeth diolchgarwch bendigedig y prynhawn ‘ma.  Diolch hefyd i’r Parchedig Sparey-Taylor a’r staff am baratoi’r gwasanaeth.

A big thank you to all the children for presenting a wonderful thanksgiving service this afternoon.  Thanks also to Reverend Sparey-Taylor and the staff for preparing the service.

Gwasanaeth Diolchgarwch 07/10/2022 / Thanksgiving Service 07/10/2022

Bydd ein Gwasanaeth Diolchgarwch yn Egwlys Corpus Christi am 1:30pm ar ddydd Gwener, Hydref 7fed.  Ein thema eleni yw ‘crwydro’.  Bydd Parchedig Rebecca Sparey-Taylor yn ymuno â ni ac mae croeso cynnes i bawb

Our Thanksgiving Service will be at Corpus Christi Church at 1:30pm on Friday, October 7th.  Our theme this year is ‘wander’.  Reverend Rebecca Sparey-Taylor will be joining us and a warm welcome is extended to family and friends.

Gwasanaeth Blynyddoedd 3 a 4 / Years 3 and 4 Assembly

Diolch yn fawr i’n disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 am gynnal ein gwasanaeth yn yr Eglwys y prynhawn ‘ma.  Pob un yn wych!

Thank you to our Years 3 and 4 pupils for taking our assembly at the Church this afternoon.  They were all brilliant!