Tocynnau Sioe Nadolig / Christmas Show Tickets

Sioe Nadolig Ysgol Tremeirchion Christmas Show

Cynhelir Sioe Nadolig Ysgol Tremeirchion eleni yn Neuadd y Dref, Dinbych ar nos Fawrth, Rhagfyr 20fed am 6:00pm.  Mae cost llogi’r neuadd oddeutu £200 a bydd angen talu hefyd am fws i gludo disgyblion a staff i ymarfer yno ar yr un diwrnod.

Er mwyn talu rhai o’r costau rydym wedi penderfynu gwerthu tocynnau ar gyfer y perfformiad.  Cost y tocynnau yw £2 yr un i oedolion ac am ddim i blant o dan 18.  Rydym wedi dyrannu 6 tocyn i bob teulu gydag unrhyw docynnau sbâr yn cael eu rhyddhau a’u gwerthu ar sail y cyntaf i’r felin.  Gallwch archebu tocynnau drwy ParentPay (cyfrif eich plentyn hynaf) tan ddydd Llun, Rhagfyr 12fed.  Nodwch yn yr adran ‘Notes’ y nifer o docynnau oedolyn a phlentyn yr hoffech archebu, hyd at uchafswm o 6 tocyn.  Gofynnwn yn garedig i chi dalu £2 am bob tocyn oedolyn, er enghraifft, os ydych yn archebu 3 tocyn oedolyn a 3 thocyn plentyn, talwch £6, os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.


Ysgol Tremeirchion’s Christmas Show this year will be held at Denbigh Town Hall on Tuesday, December 20th at 6:00pm.  The cost of hiring the hall is around £200 and we will also need to pay for a coach to transport pupils and staff for a rehearsal on the same day.

In order to cover some of these costs we have decided to sell tickets for the performance.  The tickets cost £2 each for adults and free for children under 18.  We have allocated 6 tickets per family with any spare tickets released closer to the date and sold on a first come, first served basis.  You’re able to order tickets using ParentPay (your eldest child’s account) until Monday, December 12th.  Please specify in the ‘Notes’ section how many adult and child tickets you would like to order, up to a maximum of 6 tickets.  Please pay £2 for each adult ticket, for example, if you order 3 adult tickets and 3 child tickets, please pay £6.

Thank you for your cooperation.

Noson Rieni / Parents’ Evening – 09/11/2022

Noson Rieni – 09/11/2022

Byddwn yn cynnal Noson Rieni ar nos Fercher, Tachwedd 9fed; cyfle i drafod cynnydd yn ogystal â thargedau unigol eich plentyn.  Er mwyn cadw at amserlen, bydd pob cyfarfod yn para 10 munud ar y mwyaf.

Mae croeso i chi ddod i’r ysgol er mwyn cyfarfod wyneb i wyneb neu dderbyn galwad ffôn.  Er mwyn hwyluso trefniadau, a wnewch chi gwblhau holiadur trwy ddilyn y ddolen isod, os gwelwch yn dda:

https://forms.office.com/r/f5WGTLQtR7

Cwblhewch un holiadur ar gyfer un plentyn gan osgoi cynnwys brodyr a chwiorydd ar yr un holiadur, os gwelwch yn dda.  Gofynnaf yn garedig i chi gwblhau’r holiadur erbyn 10:00am, dydd Llun, Hydref 24ain.


We will be holding a Parents’ Evening on Wednesday, November 9th; an opportunity to discuss progress as well as your child’s individual targets.  In order to stick to a schedule, each meeting will last no more than 10 minutes.

You are welcome to come to school in order to meet face to face or receive a phone call.  To ease arrangements, please complete a questionnaire by following the link below:

https://forms.office.com/r/f5WGTLQtR7

Please complete one questionnaire per child, don’t include siblings on the same one.  I kindly ask you to complete the questionnaire by 10:00am, Monday, October 24th.

Diolch yn fawr.