Ymweliad Tudur Wyn / Tudur Wyn’s Visit

Bore Dydd Gwener, cawsom ymweliad arbennig iawn gan Mr Tudur Wyn Jones (gŵr Anti Iona) i gan ambell i gân gan gynnwys “Yma o Hyd” gyda’r disgyblion. Roedd yn gyfle gwych i’r disgyblion ganu yn eu crysau t coch, gwyn a gwyrdd yn y babell ac hefyd yn seibiant haeddianol o weithgareddau’r mabolgampau. Diolch yn fawr iawn i Tudur am ddod atom.

Friday morning, we had a special visit from Mr Tudur Wyn Jones (Anti Iona’s husband) to sing a couple of songs including “Yma o Hyd” with the pupils. It was a brilliant opportunity for the pupils to sing in their red, white and green t-shirts in the tent and also a well deserved break from the sports day activities. Thank you Tudur for visiting us at the school.