Celf a Chreff yr Urdd / Art and Craft for the Urdd

Atodaf manylion ar gyfer Celf a Chrefft yr Urdd eleni. Bydd angen mynd ar darnau Celf a Chrefft i Ocsiwn Rhuthun ar Dydd Iau, 4rydd o Fai rhwng 10 o’r gloch 12 o’r gloch.

Os ydych wedi gwneud darnau ar gyfer yr Eisteddfod adref bydd angen-

  1. Cofrestru’r darn ar y porth
  2. Tynnu ffotograff o waith eich plentyn/plant a’i uwchlwytho i’r Porth
  3. Argraffu’r label a’i osod ar y gwaith

Os gallwch ddod a’r gwaith i’r ysgol erbyn Dydd Mercher, 3rydd o Fai.

Tybed os oes yno rhywyn ar gael i fynd i Rhuthun yn ystod bore’r 4rydd o Fai? Os gallwch adael mi wybod, mi fyddai hynny o gymorth mawr. Diolch

I’ve enclosed information regarding Art and Craft competition for the Urdd this year. The art and craft items will need to reach Ruthin Farmers Auction on Thursday, 4th May between 10 and 12 o clock.

If you have done art and craft items for the Urdd at home please ensure that –

  1. The work is registered on the ‘Porth’
  2. Take a photograph of the pupils work and upload onto the ‘Porth’
  3. Print out the label and attach to their work

Please could all of the art and craft items be sent into school by Wednesday, 3rd of May.

I wonder if anyone is available to take the work to Ruthin Farmers Auction on Thursday morning, 4th of May between 10 and 12? If anyone is available, that would be a great help. Thank you

Gweithgareddau Diweddar / Recent Activities

Twrnamaint Pêl-droed Dyffryd Clwyd / Vale of Clwyd Football Tournament

Bu nifer o ddisgyblion hŷn yr ysgol yn cynrychioli’r ysgol mewn twrnamaint pêl-droed yn Rhuthun yn ddiweddar. Da iawn chi am weithio’n wych fel tîm.

A number of the school’s older pupils represented the school in a football tournament in Ruthin recently. Well done for working brilliantly as a team.


Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth / Showing Racism the Red Card

Ar ddiwrnod gêm bêl-droed Cymru v Iran, bu’r disgyblion yn cwblhau gweithgareddau Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith yr elusen.

On the day of the Wales v Iran football match, the pupils completed Show Racism the Red Card activities in order to raise awareness of the charity’s work.


Dydd Arwyr y Rhyngrwyd / Be Internet Legend Day

Roedd hi’n Ddydd Arwyr y Rhyngrwyd ar Ragfyr 8fed. Ymunodd disgyblion hŷn yr ysgol â gwasanaeth rhithiol gyda Parent Zone a Google cyn mynd ati i gwblhau gweithgareddau. Mae mwy o wybodaeth ar gael i rieni yma: Online Safety Tips for Parents – Be Internet Legends

It was Be Internet Legends Day on December 8th. The school’s older pupils joined a virtual assembly with Parent Zone and Google before completing activities. Information for parents can be found here: Online Safety Tips for Parents – Be Internet Legends


Gweithdy Drymiau / Drums Workshop

Diolch i’r Parchedig Carol Thomas o’r Esgobaeth am gynnal gweithdy drymiau gyda’n disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6. Roedd pawb wedi mwynhau’n fawr.

Thanks to Reverend Carol Thomas from the Diocese for leading a drums workshop with our Year 5 and Year 6 pupils. Everyone thoroughly enjoyed the session.


CogUrdd

Llongyfarchiadau i Ela o Flwyddyn 4 am gynrychioli’r ysgol yng nghystadleuaeth CogUrdd yn Ysgol Uwchradd y Rhyl yn ddiweddar. Roedd Ela’n cystadlu yn Rownd Rhanbarth Dinbych ac roedd canmol mawr i’r Frechdan Fendigedig!

Congratulations to Ela from Year 4 for representing the school in the CogUrdd competition at Rhyl High School recently. Ela was competing in the Denbigh Regional Round and her Splendid Sandwich was commended!

CogUrdd

Wel am gystadleuaeth! 18 o blant yn cystadlu yn Rownd Ysgol cystadleuaeth CogUrdd y p’nawn ‘ma. Pob un ‘Brechdan Fendigedig’ yn edrych yn flasus dros ben! Diolch yn fawr i Rebecca Sparey-Taylor am feirniadu a llongyfarchiadau i Ela am ennill y gystadleuaeth!

What a competition! 18 children competing in the School Round of the CogUrdd competition this afternoon. 18 delicious ‘Splendid Sandwiches’! Thanks to Rebecca Sparey-Taylor for judging and congratulations to Ela for winning the competition!

Jambori Cwpan y Byd / World Cup Singalong

Cawsom hwyl y bore ‘ma yn ymuno â dros 230,000 o blant a rhai o sêr Cymru yn Jambori Cwpan y Byd 2022. Canu a dawnsio gwych gan bawb!

We had fun this morning joining over 230,000 children and some Welsh stars at the virtual World Cup 2022 Singalong. Great singing and dancing by everyone!

Jambori a CogUrdd yfory (10/11/2022) World Cup Singalong and CogUrdd tomorrow

Jambori Cwpan y Byd / World Cup Singalong

Neges i’ch atgoffa bod croeso i’r plant wisgo coch neu unrhyw beth sy’n cynrychioli Cymru i’r ysgol yfory, dydd Iau, Tachwedd 10fed.

A reminder that the children are welcome to wear red or anything that represents Wales to school tomorrow, Thursday, November 10th.


CogUrdd

Yn ystod y pynhawn yfory bydd y disgyblion (Blynyddoedd 4, 5 a 6) sydd wedi cofrestru yn cystadlu yn Rownd Ysgol Cystadleuaeth CogUrdd. Cofiwch, ni fydd yr ysgol yn darparu’r cynhwysion ar gyfer y gystadleuaeth; felly, bydd gofyn i chi ddarparu’r rhain. Mae’r holl wybodaeth ar gael yma: Cystadleuaeth CogUrdd Competition – Ysgol Tremeirchion, St Asaph

Tomorrow afternoon, the pupils (Years 4, 5 and 6) who have registered will compete in the School Round of the CogUrdd competition. As stated previously, the school will not be providing the ingredients for the competition; therefore, you will be required to provide these.  Information can be found here: Cystadleuaeth CogUrdd Competition – Ysgol Tremeirchion, St Asaph

Cystadleuaeth CogUrdd Competition

Roedd y gystadleuaeth CogUrdd yn boblogaidd iawn yn yr ysgol llynedd.  Cystadleuaeth goginio yw CogUrdd sy’n rhan o Eisteddfod yr Urdd.  Mae’n rhaid i’ch plentyn fod ym Mlwyddyn 4, 5 neu 6 ac aelod o’r Urdd i gystadlu; mae’n bosib ymaelodi ar wefan yr Urdd (www.urdd.cymru/cy/ymuno/).

Bydd Rownd Ysgol y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn yr ysgol ar ddydd Iau, Tachwedd 10fed.  Bydd enillydd y Rownd Ysgol yn cynrychioli’r ysgol yn y Rownd Rhanbarth yn Ysgol Uwchradd y Rhyl ar ddydd Iau, Tachwedd 24ain.  Ar gyfer y ddwy rownd bydd angen gwneud ‘Brechdan Fendigedig’.  Mae mwy o wybodaeth yn y ‘Pecyn Gwybodaeth i Gystadleuwyr’.

Ni fydd yr ysgol yn darparu’r cynhwysion ar gyfer y gystadleuaeth; felly, bydd gofyn i chi ddarparu’r rhain.  Bydd angen ymarfer yn y cartref o flaen llaw, ni fydd y disgyblion yn cael derbyn cymorth yn ystod y gystadleuaeth.

Gai ofyn yn garedig i chi ddarllen y ‘Pecyn Gwybodaeth i Gystadleuwyr’ cyn cytuno i’ch plentyn gystadlu.  Mae’n bosib cofrestru eich plentyn yn Y Porth neu os ydych chi’n dymuno i’r ysgol gofrestru eich plentyn, cwblhewch y ffurflen ar-lein erbyn dydd Mercher, Hydref 26ain, os gwelwch yn dda: https://forms.office.com/r/5Xjy3wT7Zg


The CogUrdd competition was very popular in school last year.  It is a cooking competition which is part of the Urdd Eisteddfod.  Your child must be in Year 4, 5 or 6 and a member of the Urdd to compete; it is possible to join on the Urdd website (www.urdd.cymru/en/join/).

The School Round of the competition will be held on Thursday, November 10th.  The winner of the School Round will then represent the school in the Regional Round at Rhyl High School on Thursday, November 24th.  Preparing a ‘Splendid Sandwich’ is the challenge in both rounds.  More information can be found in the ‘Competitors Information Pack’.

The school will not be providing the ingredients for the competition; therefore, you will be required to provide these.  The children are encouraged to practice at home before competing as no support will be given during the competition.

Can I kindly ask that you read the ‘Competitors Information Pack’ before agreeing to your child competing.  It is possible to register your child on the Urdd platform, Y Porth, or if you would like the school to register your child, please complete the online form by Wednesday, October 26th: https://forms.office.com/r/5Xjy3wT7Zg

Pêl-rwyd yr Urdd / Urdd Netball

Llongyfarchiadau i dîm pêl-rwyd yr ysgol am gynrychioli’r ysgol yng nghystadleuaeth Pêl-rwyd Merched yr Urdd yn Ysgol Glan Clwyd heddiw. Diolch i bob un am ymdrechu ac ymddwyn yn wych. Diolch i Ms Barr a Mrs Williams, yr hyfforddwyr heddiw, yn ogystal.

Congratulations to the school’s netball team for representing the school in the Urdd Girls Netball competition at Ysgol Glan Clwyd today. Thanks to the girls for their brilliant effort and behaviour. Thanks to Ms Barr and Mrs Williams, the coaches today, too.

Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Annwyl rieni,

Bu’r Eisteddfod yn Ninbych dros yr hanner tymor yn llwyddiannus iawn. Roedd gan Clwstwr Glan Clwyd babell ar y maes. Gobeithio cawsoch gyfle i weld yr arddangosfa a’r fidio.

I’r rhai oedd wedi methu mynd i’r Eiateddfod, isod mae lluniau o’r babell a’r arddangosfa ac hefyd dolen i fidio am yr ysgol oedd yn rhan o’r cyflwyniad oedd gennym.

Diolch i bawb oedd wedi cystadlu yn ystod y flwyddyn. Diolch i’r staff, plant a rhieni am gefnogi’r ysgol a’r Urdd. Da iawn pawb yn Ysgol Tremeirchion.

Dear parents,

The Eisteddfod in Denbigh during half term was a great success. The Glan Clwyd Cluster had a marquee on the field. I hope you had an opportunity to see the display and the video.

For those who were not able to visit the Eisteddfod, below there are pictures of the marquee and the display and also a link to the video that was part of our presentation.

Thank you to everyone who competed during the year. Thank you to the staff, pupils and parents for supporting the school and the Urdd. Well done to everyone at Ysgol Tremeirchion.

Hysbysfwrdd Ysgol Tremeirchion Urdd