Annwyl Rieni / Gwarcheidwaid,
Ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd, mae angen ethol disgyblion i gynrychioli’u blwyddyn ar Gyngor Ysgol Tremeirchion. Rydym am gynnal etholiad yn yr ysgol dydd Iau nesaf, Medi 15fed, ar Ddydd Rhyngwladol Democratiaeth.
Os hoffai’ch plentyn gael ei ystyried, gofynnwn iddo/iddi greu fideo byr (oddeutu 2 funud). Awgrymwn fod eich plentyn yn ateb y cwestiynau canlynol:
- Pam ydych chi eisiau bod yn aelod o Gyngor Ysgol Tremeirchion?
- Beth allwch chi ei gynnig i’r Cyngor Ysgol?
- Oes gennych chi unrhyw syniadau ar sut i ddatblygu’r ysgol?
Llwythwch y fideo i Seesaw, neu anfonwch y fideo trwy ebost i gyfeiriad ebost yr ysgol, erbyn dydd Mercher, Medi 14eg, os gwelwch yn dda. Bydd y fideos yn cael eu dangos i’r dosbarth cyfan, ac yna pleidlais.
Diolch yn fawr,
Staff Ysgol Tremeirchion
Dear Parents / Guardians,
At the beginning of a new academic year, pupils need to be elected to represent their year on the School Council. We will hold an election at school next Thursday, September 15th, on International Day of Democracy.
If your child would like to be considered, we ask that he/she creates a short video (around two minutes). We suggest that your child answers the following questions:
- Why do you want to be a School Council member?
- What can you offer the School Council?
- Have you got any ideas on how to develop the school?
Please upload the video to Seesaw, or send it via email to the school’s email address, by Wednesday, September 14th. The videos will be shown to the whole class, followed by a vote.
Diolch yn fawr,
Staff Ysgol Tremeirchion