Gwersi Addysg Gorfforol Blynyddoedd 3 a 4 / Years 3 & 4 PE Lessons

O ddydd Llun nesaf, Tachwedd 21ain, bydd diwrnodau Addysg Gorfforol Blynyddoedd 3 a 4 yn newid o ddydd Mawrth a dydd Iau i ddydd Llun a dydd Mercher.  Mae croeso i’r disgyblion wisgo’u gwisg Addysg Gorfforol i’r ysgol ar ddiwrnod gwers Addysg Gorfforol.

From next Monday, November 21st, Years 3 and 4 PE days will change from Tuesday and Thursday to Monday and Wednesday.  The pupils are welcome to wear their PE kit to school on the day of a PE lesson.

Rasys Traws gwlad / Cross-country Races

Cawsom wybod brynhawn Gwener diwethaf bod Tîm Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych yn trefnu cystadleuaeth rhedeg traws gwlad ar gaeau Clwb Rygbi Rhuthun ar ddydd Gwener, Hydref 28ain.

Mae pedair ras i gyd:

Bechgyn Blynyddoedd 3 a 4 – 1000m

Merched Blynyddoedd 3 a 4 – 1000m

Bechgyn Blynyddoedd 5 a 6 – 1500m

Merched Blynyddoedd 5 a 6 – 1500m

Rydym yn gobeithio anfon un plentyn i gynrychioli’r ysgol ym mhob ras.  Dydd Iau yma, bydd y disgyblion sy’n dymuno rhedeg yn ymarfer rhedeg pellter y ras.  Ar ddydd Mawrth, Hydref 25ain, byddwn yn cynnal rasys yn yr ysgol gydag enillydd pob ras yn cynrychioli’r ysgol yn Rhuthun.

Os ydych chi’n fodlon i’ch plentyn fentro, a wnewch chi gwblhau’r ffurflen ar-lein, os gwelwch yn dda: https://forms.office.com/r/03emD0gwvJ


We were informed last Friday afternoon that Denbighshire Leisure’s Active Communities Team is organising a cross-country competition on the fields of Ruthin Rugby Club on Friday, October 28th.

There are four races in total:

Boys Years 3 and 4 – 1000m

Girls Years 3 and 4 – 1000m

Boys Years 5 and 6 – 1500m

Girls Years 5 and 6 – 1500m

We hope to send one child to represent the school in each race.  This Thursday, the pupils who wish to run will practice running the distance of the race.  On Tuesday, October 25th, we will hold races at school with the winner of each race representing the school in Ruthin.

If you are willing for your child to take part, please complete the online form: https://forms.office.com/r/03emD0gwvJ

Diolch yn fawr.

Gwasanaeth Blynyddoedd 3 a 4 / Years 3 and 4 Assembly

Diolch yn fawr i’n disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 am gynnal ein gwasanaeth yn yr Eglwys y prynhawn ‘ma.  Pob un yn wych!

Thank you to our Years 3 and 4 pupils for taking our assembly at the Church this afternoon.  They were all brilliant!

Dathlu Dydd Owain Glyndŵr / Celebrating Owain Glyndŵr Day

Cawsom hwyl yn Dathlu Dydd Owain Glyndŵr dydd Gwener diwethaf.  Diolch yn fawr i ddisgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 am gynnal gwasanaeth am freuddwydion.

We enjoyed celebrating Owain Glyndŵr Day last Friday.  During our assembly, our Year 5 and Year 6 pupils explained the dreams of Owain Glyndŵr before sharing their own dreams on how to improve the world we live in.

Etholiad Cyngor Ysgol (Blwyddyn 2 hyd at Flwyddyn 6) / School Council Election (Year 2 to Year 6)

Annwyl Rieni / Gwarcheidwaid,

Ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd, mae angen ethol disgyblion i gynrychioli’u blwyddyn ar Gyngor Ysgol Tremeirchion.   Rydym am gynnal etholiad yn yr ysgol dydd Iau nesaf, Medi 15fed, ar Ddydd Rhyngwladol Democratiaeth.

Os hoffai’ch plentyn gael ei ystyried, gofynnwn iddo/iddi greu fideo byr (oddeutu 2 funud).  Awgrymwn fod eich plentyn yn ateb y cwestiynau canlynol:

  • Pam ydych chi eisiau bod yn aelod o Gyngor Ysgol Tremeirchion?
  • Beth allwch chi ei gynnig i’r Cyngor Ysgol?
  • Oes gennych chi unrhyw syniadau ar sut i ddatblygu’r ysgol?

Llwythwch y fideo i Seesaw, neu anfonwch y fideo trwy ebost i gyfeiriad ebost yr ysgol, erbyn dydd Mercher, Medi 14eg, os gwelwch yn dda.  Bydd y fideos yn cael eu dangos i’r dosbarth cyfan, ac yna pleidlais.

Diolch yn fawr,

Staff Ysgol Tremeirchion

 

Dear Parents / Guardians,

At the beginning of a new academic year, pupils need to be elected to represent their year on the School Council.  We will hold an election at school next Thursday, September 15th, on International Day of Democracy.

If your child would like to be considered, we ask that he/she creates a short video (around two minutes).  We suggest that your child answers the following questions:

  • Why do you want to be a School Council member?
  • What can you offer the School Council?
  • Have you got any ideas on how to develop the school?

Please upload the video to Seesaw, or send it via email to the school’s email address, by Wednesday, September 14th.  The videos will be shown to the whole class, followed by a vote.

Diolch yn fawr,

Staff Ysgol Tremeirchion

Capel y Graig Yfory / Rock Chapel Tomorrow

Os yw’r tywydd yn caniatáu, bydd disgyblion Blwyddyn 1 hyd at Flwyddyn 6 yn cerdded i Gapel y Graig yfory.  Fel y nodwyd yn y llythyr ddydd Llun, mae’r disgyblion i wisgo’r wisg ysgol.  Oherwydd glaw trwm y prynhawn yma, rydym yn cynghori gwisgo esgidiau addas (esgidiau glaw neu esgidiau/treinyrs cerdded).  Gofynnwn i’r disgyblion ddod ag esgidiau a throwsus (nid oes rhaid iddyn nhw fod yn drowsus ysgol) sbâr i’r ysgol gan fod y llwybr yn gallu bod yn fwdlyd.  Cofiwch fod y disgyblion angen diod, byrbryd a chot law yn ogystal.

Weather permitting, Year 1 to Year 6 pupils will walk to Rock Chapel tomorrow.  As stated in the letter on Monday, the pupils are to wear the school uniform.  Due to heavy rain this afternoon, we advise wearing suitable footwear (wellingtons or walking shoes/trainers) and to bring spare footwear and trousers (they don’t have to be school trousers) to school as the trail can be muddy.  We remind you that the pupils also need a drink, snack and a raincoat.

Diogelwch ar y we blwyddyn 3 a 4 / Internet safety Year 3 and 4

Heddiw cafodd Blwyddyn 3 a 4 gyflwyniad ‘Diogwlwch ar y we’ gan PC Gareth Williams. Roedd y cyflwyniad yn ddiddorol iawn a bu cyfle i’r plant holi a thrafod agweddau o sut i gadw’n ddiogel pan yn defnyddio’r we. Mae gwybodaeth defnyddiol iawn ar y wefan isod sydd hefyd ar gael i rieni.  Diolch i PC Gareth.

https://schoolbeat.cymru/cy/

Today our Year 3 and 4 class were given a presentation about ‘Keeping safe on-line’ by PC Gareth Williams. It was a very interesting presentation with opportunity for the children to take part in a question and answer session. There is additional information on the website below which is also accessible to parents. Our thanks to PC Gareth.

https://schoolbeat.cymru/en/