Gwersi Addysg Gorfforol Blynyddoedd 3 a 4 / Years 3 & 4 PE Lessons

O ddydd Llun nesaf, Tachwedd 21ain, bydd diwrnodau Addysg Gorfforol Blynyddoedd 3 a 4 yn newid o ddydd Mawrth a dydd Iau i ddydd Llun a dydd Mercher.  Mae croeso i’r disgyblion wisgo’u gwisg Addysg Gorfforol i’r ysgol ar ddiwrnod gwers Addysg Gorfforol.

From next Monday, November 21st, Years 3 and 4 PE days will change from Tuesday and Thursday to Monday and Wednesday.  The pupils are welcome to wear their PE kit to school on the day of a PE lesson.

Cystadleuaeth CogUrdd Competition

Roedd y gystadleuaeth CogUrdd yn boblogaidd iawn yn yr ysgol llynedd.  Cystadleuaeth goginio yw CogUrdd sy’n rhan o Eisteddfod yr Urdd.  Mae’n rhaid i’ch plentyn fod ym Mlwyddyn 4, 5 neu 6 ac aelod o’r Urdd i gystadlu; mae’n bosib ymaelodi ar wefan yr Urdd (www.urdd.cymru/cy/ymuno/).

Bydd Rownd Ysgol y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn yr ysgol ar ddydd Iau, Tachwedd 10fed.  Bydd enillydd y Rownd Ysgol yn cynrychioli’r ysgol yn y Rownd Rhanbarth yn Ysgol Uwchradd y Rhyl ar ddydd Iau, Tachwedd 24ain.  Ar gyfer y ddwy rownd bydd angen gwneud ‘Brechdan Fendigedig’.  Mae mwy o wybodaeth yn y ‘Pecyn Gwybodaeth i Gystadleuwyr’.

Ni fydd yr ysgol yn darparu’r cynhwysion ar gyfer y gystadleuaeth; felly, bydd gofyn i chi ddarparu’r rhain.  Bydd angen ymarfer yn y cartref o flaen llaw, ni fydd y disgyblion yn cael derbyn cymorth yn ystod y gystadleuaeth.

Gai ofyn yn garedig i chi ddarllen y ‘Pecyn Gwybodaeth i Gystadleuwyr’ cyn cytuno i’ch plentyn gystadlu.  Mae’n bosib cofrestru eich plentyn yn Y Porth neu os ydych chi’n dymuno i’r ysgol gofrestru eich plentyn, cwblhewch y ffurflen ar-lein erbyn dydd Mercher, Hydref 26ain, os gwelwch yn dda: https://forms.office.com/r/5Xjy3wT7Zg


The CogUrdd competition was very popular in school last year.  It is a cooking competition which is part of the Urdd Eisteddfod.  Your child must be in Year 4, 5 or 6 and a member of the Urdd to compete; it is possible to join on the Urdd website (www.urdd.cymru/en/join/).

The School Round of the competition will be held on Thursday, November 10th.  The winner of the School Round will then represent the school in the Regional Round at Rhyl High School on Thursday, November 24th.  Preparing a ‘Splendid Sandwich’ is the challenge in both rounds.  More information can be found in the ‘Competitors Information Pack’.

The school will not be providing the ingredients for the competition; therefore, you will be required to provide these.  The children are encouraged to practice at home before competing as no support will be given during the competition.

Can I kindly ask that you read the ‘Competitors Information Pack’ before agreeing to your child competing.  It is possible to register your child on the Urdd platform, Y Porth, or if you would like the school to register your child, please complete the online form by Wednesday, October 26th: https://forms.office.com/r/5Xjy3wT7Zg

Rasys Traws gwlad / Cross-country Races

Cawsom wybod brynhawn Gwener diwethaf bod Tîm Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych yn trefnu cystadleuaeth rhedeg traws gwlad ar gaeau Clwb Rygbi Rhuthun ar ddydd Gwener, Hydref 28ain.

Mae pedair ras i gyd:

Bechgyn Blynyddoedd 3 a 4 – 1000m

Merched Blynyddoedd 3 a 4 – 1000m

Bechgyn Blynyddoedd 5 a 6 – 1500m

Merched Blynyddoedd 5 a 6 – 1500m

Rydym yn gobeithio anfon un plentyn i gynrychioli’r ysgol ym mhob ras.  Dydd Iau yma, bydd y disgyblion sy’n dymuno rhedeg yn ymarfer rhedeg pellter y ras.  Ar ddydd Mawrth, Hydref 25ain, byddwn yn cynnal rasys yn yr ysgol gydag enillydd pob ras yn cynrychioli’r ysgol yn Rhuthun.

Os ydych chi’n fodlon i’ch plentyn fentro, a wnewch chi gwblhau’r ffurflen ar-lein, os gwelwch yn dda: https://forms.office.com/r/03emD0gwvJ


We were informed last Friday afternoon that Denbighshire Leisure’s Active Communities Team is organising a cross-country competition on the fields of Ruthin Rugby Club on Friday, October 28th.

There are four races in total:

Boys Years 3 and 4 – 1000m

Girls Years 3 and 4 – 1000m

Boys Years 5 and 6 – 1500m

Girls Years 5 and 6 – 1500m

We hope to send one child to represent the school in each race.  This Thursday, the pupils who wish to run will practice running the distance of the race.  On Tuesday, October 25th, we will hold races at school with the winner of each race representing the school in Ruthin.

If you are willing for your child to take part, please complete the online form: https://forms.office.com/r/03emD0gwvJ

Diolch yn fawr.

Gwasanaeth Blynyddoedd 3 a 4 / Years 3 and 4 Assembly

Diolch yn fawr i’n disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 am gynnal ein gwasanaeth yn yr Eglwys y prynhawn ‘ma.  Pob un yn wych!

Thank you to our Years 3 and 4 pupils for taking our assembly at the Church this afternoon.  They were all brilliant!