Neges gan Dîm Gwasanaethau Arlwyo a Glanhau Sir Ddinbych:
Mae Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion Sir Ddinbych wedi wynebu cynnydd parhaus ym mhrisiau holl nwyddau bwyd a gaffaelir yn fasnachol, y farchnad bwyd domestig ac ar draws holl gadwyni cyflenwi’r farchnad fwyd.
Ar gyfartaledd, mae’r Gwasanaeth wedi gweld cynnydd o hyd at 20% ym mhrisiau cyflenwyr bwyd, ond mae’n gweithio gyda chyflenwyr i geisio lliniaru’r cynnydd hwn.
Yng ngoleuni’r prisiau cynyddol hyn, rydym wedi penderfynu ar gynnydd o 5c mewn prydau ysgol a daw’r cynnydd hwn i rym ar 1 Ebrill 2023.
Hyd yn oed wedi’r cynnydd hwn bydd y prisiau yn parhau yn eithaf isel o’i gymharu ag ardaloedd awdurdodau lleol eraill, ac mae’r gwasanaeth yn hyderus ei fod yn darparu gwerth am arian yn nhermau ansawdd y bwyd a roddir i ddisgyblion yn ein hysgolion.
Bydd pris cinio ysgol cynradd yn cynyddo o £2.45 i £2.50 ar ôl gwyliau’r Pasg.
A message from Denbighshire’s Catering and Cleaning Services Team
The Denbighshire School Catering Service has faced ongoing increase in the prices for all major commercially procured food products, the domestic food market and across all food market supply chains.
The Service has seen an average price increase of up to 20% across food suppliers, but is working with suppliers to mitigate increases.
In the face of rising prices we have agreed to increase the cost of school meals by 5p, this will take effect from 1st April 2023.
Even after this increase, prices will still be relatively low compared to other local authority areas, and the service is confident that it is providing value for money in terms of the quality of food given to pupils across our schools.
The price of a primary school lunch will increase from £2.45 to £2.50 after the Easter holiday.