Cystadleuaeth CogUrdd Competition

Roedd y gystadleuaeth CogUrdd yn boblogaidd iawn yn yr ysgol llynedd.  Cystadleuaeth goginio yw CogUrdd sy’n rhan o Eisteddfod yr Urdd.  Mae’n rhaid i’ch plentyn fod ym Mlwyddyn 4, 5 neu 6 ac aelod o’r Urdd i gystadlu; mae’n bosib ymaelodi ar wefan yr Urdd (www.urdd.cymru/cy/ymuno/).

Bydd Rownd Ysgol y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn yr ysgol ar ddydd Iau, Tachwedd 10fed.  Bydd enillydd y Rownd Ysgol yn cynrychioli’r ysgol yn y Rownd Rhanbarth yn Ysgol Uwchradd y Rhyl ar ddydd Iau, Tachwedd 24ain.  Ar gyfer y ddwy rownd bydd angen gwneud ‘Brechdan Fendigedig’.  Mae mwy o wybodaeth yn y ‘Pecyn Gwybodaeth i Gystadleuwyr’.

Ni fydd yr ysgol yn darparu’r cynhwysion ar gyfer y gystadleuaeth; felly, bydd gofyn i chi ddarparu’r rhain.  Bydd angen ymarfer yn y cartref o flaen llaw, ni fydd y disgyblion yn cael derbyn cymorth yn ystod y gystadleuaeth.

Gai ofyn yn garedig i chi ddarllen y ‘Pecyn Gwybodaeth i Gystadleuwyr’ cyn cytuno i’ch plentyn gystadlu.  Mae’n bosib cofrestru eich plentyn yn Y Porth neu os ydych chi’n dymuno i’r ysgol gofrestru eich plentyn, cwblhewch y ffurflen ar-lein erbyn dydd Mercher, Hydref 26ain, os gwelwch yn dda: https://forms.office.com/r/5Xjy3wT7Zg


The CogUrdd competition was very popular in school last year.  It is a cooking competition which is part of the Urdd Eisteddfod.  Your child must be in Year 4, 5 or 6 and a member of the Urdd to compete; it is possible to join on the Urdd website (www.urdd.cymru/en/join/).

The School Round of the competition will be held on Thursday, November 10th.  The winner of the School Round will then represent the school in the Regional Round at Rhyl High School on Thursday, November 24th.  Preparing a ‘Splendid Sandwich’ is the challenge in both rounds.  More information can be found in the ‘Competitors Information Pack’.

The school will not be providing the ingredients for the competition; therefore, you will be required to provide these.  The children are encouraged to practice at home before competing as no support will be given during the competition.

Can I kindly ask that you read the ‘Competitors Information Pack’ before agreeing to your child competing.  It is possible to register your child on the Urdd platform, Y Porth, or if you would like the school to register your child, please complete the online form by Wednesday, October 26th: https://forms.office.com/r/5Xjy3wT7Zg