Sioe Nadolig / Christmas Show

Diolch yn fawr iawn i’r disgyblion a’r staff am eu gwaith caled yn paratoi a pherfformio’r Sioe Nadolig nos Fawrth. Roedd hi’n braf iawn medru cynnal sioe wyneb yn wyneb unwaith eto. Gobeithio fod pawb ddaeth i wylio a chefnogi yn Neuadd y Dref, Dinbych wedi mwynhau.
Thank you to the pupils and staff for all their hard work preparing and performing the Christmas Show on Tuesday evening. It was great to be able to perform face to face once again. We hope that everyone who came to watch and support at Denbigh Town Hall enjoyed the show.
Parti Nadolig / Christmas Party









Diolch yn fawr iawn i’r Cymdeithas Rhieni Athrawon am brynu bwyd i bawb fwynhau yn ein parti Nadolig ddoe. Roedd digon o hwyl a chwerthin wrth ddawnsio, canu a chwarae gemau.
Thank you to the Parent Teacher Association for buying food for everyone to enjoy at our Christmas party yesterday. There was dancing, singing and party games with plenty of fun and laughter.
Siôn Corn






Er yn brysur dros ben, daeth Siôn Corn i’n gweld ddoe gyda llond sach o anrhegion, un i bob un o ddisgyblion yr ysgol. Diolch yn fawr unwaith eto i’r Cymdeithas Rhieni Athrawon am helpu Siôn Corn brynu’r anrhegion.
Although extremely busy, Siôn Corn came to see us yesterday with a sack full of presents, one for each of the school’s pupils. Many thanks once again to the Parent Teacher Association for helping Siôn Corn buy the presents.
Ar ddiwedd tymor, hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi am eich haelinoni, cefnogaeth a’ch cydweithrediad. Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi gyd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl yn y flwyddyn newydd ar ddydd Llun, Ionawr 9fed.
At the end of term, we would like to thank you very much for your generosity, support and co-operation. We wish everyone a Merry Christmas and a happy new year. We look forward to welcoming everyone back in the new year on Monday, January 9th.