Twrnamaint Pêl-droed Dyffryd Clwyd / Vale of Clwyd Football Tournament

Bu nifer o ddisgyblion hŷn yr ysgol yn cynrychioli’r ysgol mewn twrnamaint pêl-droed yn Rhuthun yn ddiweddar. Da iawn chi am weithio’n wych fel tîm.
A number of the school’s older pupils represented the school in a football tournament in Ruthin recently. Well done for working brilliantly as a team.
Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth / Showing Racism the Red Card

Ar ddiwrnod gêm bêl-droed Cymru v Iran, bu’r disgyblion yn cwblhau gweithgareddau Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith yr elusen.
On the day of the Wales v Iran football match, the pupils completed Show Racism the Red Card activities in order to raise awareness of the charity’s work.
Dydd Arwyr y Rhyngrwyd / Be Internet Legend Day




Roedd hi’n Ddydd Arwyr y Rhyngrwyd ar Ragfyr 8fed. Ymunodd disgyblion hŷn yr ysgol â gwasanaeth rhithiol gyda Parent Zone a Google cyn mynd ati i gwblhau gweithgareddau. Mae mwy o wybodaeth ar gael i rieni yma: Online Safety Tips for Parents – Be Internet Legends
It was Be Internet Legends Day on December 8th. The school’s older pupils joined a virtual assembly with Parent Zone and Google before completing activities. Information for parents can be found here: Online Safety Tips for Parents – Be Internet Legends
Gweithdy Drymiau / Drums Workshop






Diolch i’r Parchedig Carol Thomas o’r Esgobaeth am gynnal gweithdy drymiau gyda’n disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6. Roedd pawb wedi mwynhau’n fawr.
Thanks to Reverend Carol Thomas from the Diocese for leading a drums workshop with our Year 5 and Year 6 pupils. Everyone thoroughly enjoyed the session.
CogUrdd
Llongyfarchiadau i Ela o Flwyddyn 4 am gynrychioli’r ysgol yng nghystadleuaeth CogUrdd yn Ysgol Uwchradd y Rhyl yn ddiweddar. Roedd Ela’n cystadlu yn Rownd Rhanbarth Dinbych ac roedd canmol mawr i’r Frechdan Fendigedig!
Congratulations to Ela from Year 4 for representing the school in the CogUrdd competition at Rhyl High School recently. Ela was competing in the Denbigh Regional Round and her Splendid Sandwich was commended!