Cyngor Ysgol / School Council

plant 2

100_0533

Cyngor yr Ysgol

Mae Cyngor yr Ysgol yn weithredol iawn. Cynhelir etholiad pob blwyddyn ar gyfer dewis aelodau’r cyngor. Mae pob dosbarth a phob blwyddyn yn cael eu cynrychioli. Maent yn rheolaidd yn casglu arian tuag at elusennau drwy wahanol weithgareddau. Rhoddir cyfle i gyflwyno i’r llywodraethwyr a’r rhieni eu bwriad gweithredu a gwneud penderfyniadau am eu hysgol. Mae gan y Cyngor cyfrif banc eu hunain ac yn gwneud penderfyniadau yn ystod y flwyddyn ar flaenoriaethau gwariant.

Mae gan Cyngor yr Ysgol eu Cynllun Gweithredu Ysgol eu hunain sydd hefyd yn rhan o Gynllun Datblygu yr ysgol gyfan. Pob blwyddyn mae Cyngor yr ysgol yn cytuno ar addewid gweithredu a blaenoriaethau am y flwyddyn.

Maent hefyd yn cwrdd gyda Cyfeillion Rhieni ac Athrawon yr ysgol. Maent yn cynllunio ar y cyd ar gyfer gweithgareddau, blaenoriaethu gwariant a rhannu syniadau er lles y disgyblion.

Dyma Addewid Cyngor yr Ysgol

Bydd Cyngor Ysgol Tremeirchion yn:

  • Helpu cadw’r ysgol yn iach a diogel
  • Helpu’r plant i fod yn ffrindiau
  • Rhoi cyfle i blant ac oedolion rannu eu syniadau
  • Trafod syniadau newydd.
  • Casglu arian er mwyn helpu elusennau a plant a phobl llai ffodus na ni
  • Trafod efo’r plant sut yr ydym am wario arian o’n cyfrif banc. Ar hyn o bryd mae gennym £…….. yn y banc.
  • Cyfarch ymwelwyr newydd i’r ysgol a sicrhau bod croeso gan y plant
  • Gweithio efo’r plant sydd ar Pwyllgor Ysgolion Iach a Pwyllgor Iechyd a Diogelwch
  • Gwneud ein gorau i wneud pawb yn hapus a diogel
  • Cydweithio gyda CRhA ysgol Tremeirchion a chreu rhaglen o weithgareddau ar gyfer y flwyddyn
  • Cyfrannu at bolisïau – blwyddyn diwethaf dyma ni yn helpu i greu polisi disgwyliadau dosbarth a disgwyliadau buarth
  • Mae’n bwysig bod gennym ni blant yr ysgol lais, mae gennym yr hawl i drafod a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnom ni

Ysgol Iach / Eco Ysgol

Yn 2009 derbyniwyd clod ar gyfer cam 3 ysgolion iach y Sir. Erbyn hyn, 2016,  rydym wedi cyflawni cam 5. Anogir disgyblion i fyw’n iach drwy’r broses hwn.

Rydym yn ail-gylchu sawl peth yn yr ysgol, gan gynnwys, ffrwythau yn ein bin compost, poteli llaeth, papur, dwr a llawer  mwy. Mae gennym bwyllgor eco ac wedi derbyn y wobr arian yn 2009. Mae’r pwyllgor yn gweithio’n agos iawn gyda ein cyngor ysgol.

Yn ddiweddar bu un aelod o staff ar gwrs lle bu rhannu syniadau am gynnal clwb eco a chlwb garddio. Mae’r ysgol yn parhau i ddatblygu profiadau a rhoi cyfleon dysgu sydd yn ychwanegu at brofiadau’r cwricwlwm.

 

plant

 School Council

The School Council is very active. An election is held every year to choose the members of the council. Each class and year is represented. They regularly hold different events to raise money for charity. Opportunities are given to present to Governors and to parents relating to their intended actions, and decisions about their school. The Council has their own bank account and make decisions about their spending priorities during the year.

The School Council has its own School Action Plan which is also included in the School Development Plan. Each year the School Council will agree on their pledge and on actions and priorities during the year.

They also meet with the Parents and Teachers Association. Together they plan activities, prioritise the spending and exchange ideas that will benefit the pupils.

Here is the School Council’s promise

Ysgol Tremeirchion School Council will:

  • Help to keep the school healthy and safe
  • Help the children to be friends
  • Give opportunities for adults and children to share their ideas
  • Discuss new ideas
  • Raise money for charities and for children and people less fortunate than ourselves
  • Welcome new visitors to the school and ensure that they are made welcomeWork with the children on the Healthy Schools Committee and the Health and Safety Committee
  • Do our best to make everyone happy and safe
  • Work with the Ysgol Tremeirchion PTA and develop a programme of activities for the year
  • Contribute to policies- last year we helped develop the policy on classroom expectations and playtime expectations
  • It is important that we as children have a voice, we have the right to discuss and make decisions that effect us.

Healthy School / Eco School

In 2009 the school achieved the Authority’s level 3 Healthy Schools. We have now,2016, achieved level 5. Pupils are encouraged through the process to live healthily.

We recycle many things in the school, including fruit in our compost bin, milk bottles, paper, water and much more. We have an eco-committee and received the silver award in 2009. The committee weeks very closely with the School Council.

One of our members of staff recently attended a course with may additional ideas relating to running an eco-club and gardening club. The school continues to try and develop the pupils experiences and provide learning opportunities in addition to those within the curriculum.