Dyma ddyddiadau pwysig dros yr wythnosau nesaf.
Gwyliau Hanner Tymor
Yfory yw’r diwrnod olaf yn yr ysgol cyn wythnos o wyliau. Cofiwch fod y disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar ddydd Mawrth, Chwefror 28ain gan fod diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd i’r staff ar Chwefror 27ain.
Dydd Mercher, Mawrth 1af – Dydd Gŵyl Dewi
Mae croeso i’r plant wisgo unrhyw beth sy’n ymwneud â Chymru i’r ysgol. Gall hyn fod yn wisg draddodiadol Gymreig, dilledyn chwaraeon neu rywbeth coch.
Disgyblion Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6 – Bydd y disgyblion yn teithio i Ddinbych yn ystod y bore er mwyn ymuno’n Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi sydd wedi ei threfnu gan Gyngor Tref Dinbych, Grŵp Cynefin, yr Urdd a Menter Iaith.
Dydd Iau, Mawrth 2il – Diwrnod y Llyfr
Cyfle i’r disgyblion wisgo fel cymeriad o lyfr i ddathlu Diwrnod y Llyfr. Nid oes rhaid gwisgo fel cymeriad o lyfr, mae croeso i’ch plentyn wisgo’r wisg ysgol.
Dydd Gwener, Mawrth 3ydd
Perfformiadau’r Urdd – Mae croeso i deulu a ffrindiau ymuno â ni yn yr Eglwys am 1:30pm i wrando ar y disgyblion sy’n cystadlu’n Eisteddfod yr Urdd yn perfformio.
Caffi Cymraeg – Gwahoddiad i deulu a ffrindiau fwynhau paned a chacen yn yr ysgol wedi’r perfformiadau yn yr Eglwys.
Dydd Sadwrn, Mawrth 4ydd
Eisteddfod Cylch Dinbych yn Ysgol Uwchradd Dinbych.
Here are important dates over the next few weeks.
Half Term Holiday
Tomorrow is the last day at school before a week-long holiday. Please remember that the children return to school on Tuesday, February 28th as February 27th is a staff training day.
Wednesday, March 1st – St David’s Day
Children are welcome to wear anything to do with Wales to school. They could wear a traditional costume, a sports top or anything red.
Year 3 to Year 6 Pupils – The children will travel to Denbigh during the morning to join the St David’s Day Parade which has been organised by Denbigh Town Council, Grŵp Cynefin, the Urdd and Menter Iaith.
Thursday, March 2nd – World Book Day
An opportunity for the children to dress up as a character from a book to celebrate World Book Day. Dressing up is not compulsory, children are welcome to wear the school uniform.
Friday, March 3rd
Urdd Performances – Family and friends are welcome to join us in the Church at 1:30pm to listen to the pupils who are competing at the Urdd Eisteddfod perform.
Caffi Cymraeg (Welsh Café) – Family and friends are invited to enjoy a hot drink and cake at the school after the performances in the Church.
Saturday, March 4th
Denbigh Cylch Eisteddfod at Denbigh High School.