Edrych ymlaen i’r mabolgampau a’r Barbeciw Haf fory / Looking forward to Sports Day and Barbeque tomorrow

Rydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb i’r mabolgampau a’r barbeciw fory. Mae’r sesiwn mabolgampau pnawn yn dechrau am 1.00 ac yn gorffen am 3.00. Bydd Kick-it am ddim tan 4.15 i blant sydd wedi cofrestru, yn dilyn y mabolgampau ac yna bydd y barbeciw yn dechrau am 4.30. Diolch i bawb sydd wedi dychwelyd y tocynnau raffl ac arian. Rhai negeseuon i’ch atgoffa:

  • mae parcio wedi ei drefnu ar y cae gyferbyn ar ysgol (cae Juno). Nid oes parcio dros nos. Ni fydd unrhyw gyfrifoldeb am ddamwain na difrod i geir sydd wedi parcio ar y cae.
  • Mabolgampau pnawn i dechrau am 1.00
  • Ar ddiwedd ein mabolgampau byddwn yn trefnu i blant tacsi adael safle yr ysgol yn gyntaf. Gofynnwn i rieni sydd ar safle’r ysgol i barchu’r ffaith ein bod yn gofyn i chi a’ch plentyn aros i bob tacsi adael y buarth cyn i chi adael y safle ac nid gofyn i fynd yn gynnar.
  • Rydym yn edrych am wirfoddolwyr i helpu gyda’r mabolgampau e.e. ar ddiwedd y trac. Siaradwch gydag aelod o staff os ydych ar gael.
  • Yn ystod y barbeciw rydym yn gofyn i rieni fod yn gyfrifol am eu plant eu hunain.

PWYSIG- A WNEWCH CHI SICRHAU BOD EICH PLENTYN YN GWYBOD BETH YW EU TREFNIADAU NHW AR DDIWEDD Y MABOLGAMPAU e.e. adref ar y tacsi, aros i kick-it, adref efo rhieni.

Rydym yn fawr obeithio y byddwch yn mwynhau’r pnawn a’r min nos yn ein cwmni. Diolch i bawb sydd wedi bod mor weithgar yn paratoi ar gyfer y diwrnod ac i bawb sydd wedi bod mor glên yn cynnig rhoddion, eu hamser a chyfrannu tuag at y barbeciw.

Rhaid diolch yn fawr iawn i Mr Meilir Jones, Cadeirydd CRhA yr ysgol a’r grwp o rieni sydd wedi bod yn gyfrifol am y trefniadau. Ni fedrwn wneud dim fel hyn heb eich cefnogaeth chi.


We are looking forward to welcoming you to the sports day and barbeque tomorrow. The afternoon session for sports day will start at 1.00pm and will finish at 3.00. Free ‘Kick-it’ will be available to those children who have registered on-line and will finish at 4.15 followed by the Barbeque at 4.30. Thank you to everyone that has returned their tickets and money.

Notes to remand you:

  • Parking is available in the field opposite the school (Juno’s field). There is no overnight parking. No responsibility will be taken for any accidents or damage to cars parked on the field.
  • Sports Day will start at 1.00pm
  • At the end of sports day we will arrange for pupils going home on a taxi to leave the school first. We are asking parents to please respect that we are asking you and your child to wait until all taxis have left the school site and not ask staff if you can go early.
  • We are looking for volunteers to help during sports day e.g. at the end of the track. Please speak to a member of staff if you are available.
  • During the barbeque parents are responsible for their children

IMPORTANT – PLEASE ENSURE THAT YOUR CHILD KNOWS THE ARRANGEMENTS FOR THEM AT THE END OF SPORTS DAY e.g. going home on the taxi, staying for kick-it, home with parents

We hope that you will enjoy your afternoon and evening with us. Thank you to everyone who has supported and helped to arrange the day, and to everyone who has been so kind donating, giving up their time and contributing to the barbeque.

I would also like to thank Mr Meilir Jones , Chairperson of the PTA and the group of parents who have been responsible for all the arrangements. We can’t do things like this without your support.