Eglwys / Church

IMG_2761             IMG_2764

Yr Eglwys a’r Ysgol.

Ysgol cyfrwng Gymraeg, Gwirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru yw Ysgol Tremeirchion, a chafodd ei sefydlu yn 1765 yn adeilad yr Hen Ysgol sydd gyferbyn ar Eglwys. Adeiladwyd yr ysgol presennol yn 1865 a’r drysau yn agor i’r disgyblion yn 1866. Rydym yn ceisio cyfleu ethos a gwerthoedd Cristnogol ym mhob agwedd o fywyd dydd i ddydd yr ysgol.

Mae’r ysgol yn  cymryd mantais o leoliad cyfleus yr  Eglwys ar gyfer ein gwasanaethau Addoli ar y cyd. Rydym yn cynnal gwasanaeth pob prynhawn Gwener am 1.00yp. Mae croeso i rieni ymuno gyda ni. Serch hynny buaswn yn crybwyll i chi gadarnhau unrhyw trefniadau cyn i chi ddod.

Rydym hefyd yn cynnal gwasanaethau Diolchgarwch, Nadolig, Pasg yn yr Eglwys ac hefyd Gwasanaeth Dathlu diwedd cyfnod Blwyddyn 6 fel disgyblion yn yr ysgol. Byddwn yn ymweld a’r Eglwys yn ystod ein gwersi Addysg Grefyddol ac yn ei ddefnyddio ar gyfer Eisteddfod yr Ysgol yn mis Mawrth. Mae’r Eglwys yn rhan anatod o fywyd yr ysgol. Rydym yn ddiolchgar i Mr Colin Mansley, Ficer ac i Mr Gareth Williams, Ymwelydd yr Esgob am eu cefnogaeth.

Erbyn hyn mae ein ficer Colin Mansley wedi ymddeol a dymunwn pob llwyddiant iddo yn y dyfodol. Rydym hefyd yn croesawu y Parchedig Rebecca Sparey-Taylor ac yn edrych ymlaen i gydweithio gyda hi ac wrth gwrs ymuno gyda ni yn ein gwasanaethau addoli ar y cyd ac ym mywyd dydd i ddydd yr ysgol.

The Church and School

Ysgol Tremeirchion is a Welsh Medium Voluntary Controlled Church in Wales School, founded in 1765 in the building known as the Old School next to the Church. The present school building was built in 1865 and the doors opened for pupils in 1866. We do our best to convey Christian Ethos and Values in all aspects of the day to day life of the school.

The school takes advantage of the convenient location of the Church and we use it for our Whole school services. We hold a service every Friday afternoon at 1.00pm. Parents are welcome to join us. I would suggest that you contacted the school to confirm arrangements before you arrive.

We also use the Church for Thanksgiving, Christmas and Easter Services. We visit the Church during our Religious Education lessons and use it to hold our School Eisteddfod in March. The Church is an important part in the day to day life of our school. We are also grateful to Mr Colin Mansley -Ficar, and Mr Gareth Williams- Bishops Visitor for their support throughout the year.

Our vicer Colin Mansley has now retired and we wish his all the best for the future. We now welcome the Reverend Rebecca Sparey-Taylor and we look forward to working with her and of course joining us in our whole school worship and in the day to day life of the school.