Ethos a Gwerthoedd Cristnogol
Mae’r cyfle i addoli ar y cyd yn bwysig iawn i’r ysgol. Mae rhaglen blynyddol o themâu wedi eu paratoi ar gyfer y disgyblion. Mae’r rhain yn cynnwys: dechrau blwyddyn newydd, agwedd tuag at eraill, ymddygiad a pharch, y byd o’n cwmpas, cariad a chred, cyfathrebu, hanesion y Testament Newydd, rhyfel a heddwch, stori’r Nadolig a Pasg, dysgu gwers gan bobl o’r Beibl i enwi rhai.
Yn ystod pob gwasanaeth rydym yn rhoi cyfle i ddisgyblion fyfyrio mewn amser o dawelwch. Byddwn hefyd yn blaenoriaethu ar un ethos Cristnogol ac yn gofyn i’r disgyblion a’r oedolion am feddwl am gyfleon iddynt weithredu ysbryd yr ethos Cristnogol yn yr wythnos i ddod.
Rhoddi’r cyfle ar ddechrau gwasanaeth i ddisgybl oleuo’r gannwyll ac i arwain y gynulleidfa mewn gweddi fach: ‘Yng ngolau’r gannwyll gwelwn fod Duw yma gyda ni’. Wrth ddiffodd y gannwyll ar ddiwedd y gwasanaeth rhoddi’r cyfle i’r gynulleidfa anfon eu gweddi tuag at rai llai ffodus sydd yn ein meddyliau.
Addoli ar y Cyd
Fel un o Ysgolion Eglwys yng Nghymru, mae gwerthoedd ac ethos Cristnogol yn cymryd rhan blaenllaw ym mywyd dydd i ddydd yr ysgol. Rydym yn cyflwyno ethos a gwerthoedd Cristnogol mewn sawl ffordd , yn cynnwys Addysg Grefyddol, Gwasanaethau Addoli ac yn llai ffurfiol wrth i ni ymdrin a bywyd yr ysgol.
Dyma restr o themâu byddwn yn eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn mewn gwasanaeth wythnosol. Mae’r disgyblion ar hyn o bryd yn derbyn Gwasanaeth ‘Agor y Llyfr’ pob pythefnos yn yr Eglwys ar fore Llun. Mrs Nesta Davies a’i thîm sy’n cyflwyno’r Gwasanaeth yma. Bydd Mr Gareth Williams Ymwelydd yr Esgob yn arwain gwasanaethau pob hanner tymor ac hefyd ein ficer Mr Colin Mansley. Rydym hefyd yn gwahodd asiantaethau ac ymwelwyr i gyflwyno mewn rhai gwasanaethau yn ystod y flwyddyn.
Themâu Addoli ar y Cyd:
Dechrau blwyddyn newydd a diwedd blwyddyn
Pobl sy’n ein helpu neu sydd wedi gwneud gwahaniaeth
Diolchgarwch
Arwyr ein cenedl
Gofal a chariad tuag at greaduriaid
Gofal Duw a gofalu am eraill yn y wlad hon neu ar draws y byd
Rhyfel a heddwch
Gwrth fwlio ac agwedd iach tuag at eraill
Barnados, Operation Christmas Child ac elusennau eraill
Dathlu dyddiadau arbennig – Nadolig, Pasg, Diolchgarwch
Stori’r geni
Natur y Beibl, y Byd o’n cwmpas, gofal am ein byd, gofod
Dŵr
Blynyddoedd cynnar yr Iesu
Byw yn iach
Seintiau
Diwrnod y Llyfr ac Awduron
Cartrefi ac Addoldai
Cred a’r Damhegion
Yn ogystal a dilyn thema wythnosol, rydym hefyd yn cyflwyno i’r disgyblion ethos Gwerthoedd Cristnogol, gan roi ffocws wythnosol ar un o’r gwerthoedd ym mhob agwedd o fywyd dyddiol yr ysgol:
Cyfeillgarwch, Gwasanaeth,Dyfalbarhad, Gobaith, Diolchgarwch, Parch, Tosturi, Cread, Ymddiried, Doethineb, Cyfiawnder, Ufudd-dod, Maddeuant, Heddwch, ‘Koinonia’ (Partneriaeth).
Mae gwahoddiad agored i rieni a’n cymdogion i ymuno gyda ni yn ein gwasanaethau yn yr Eglwys.
Ethos and Christian Values including Whole School Worship
As one of the Church in Wales Schools, Christian ethos and values play an important part in the school. We demonstrate our Christian ethos and values in many ways, including through Religious Education, Whole School Service and less formally as part of our day to day life.
Listed below you will themes that we present during our weekly Services. The pupils currently attend the Church every fortnight on a Monday morning. The Service is led by Mrs Nesta Davies and her team. Mr Gareth Williams, Bishops Visitor, will lead our Services each half term as will Mr Colin Mansley our Vicar. We also invite other agencies and visitors to take part during the year.
Whole School Service themes:
The start of the new year and end of year
People that help us and make a difference
Thanksgiving
Our Nations Heroes
Care and Love towards creatures
God’s care and caring for others in our Country and across the world
War and peace
Anti-bullying and positive attitudes towards others
Barnados, Operation Christmas Child and other charities
Celebrating special events – Christmas, Easter, Thanksgiving
The story of the birth of Christ
Nature in the Bible, the World around us, care for our world, and space
Water
Jesus’s early years
Healthy living
Saints
Book day and Authors
Homes and Places of Worship
Beliefs and Parables
As well as delivering a weekly theme, we share our Christian Values and focus on one each week in all aspects of the schools daily routine:
Friendship, Service, Endurance, Hope, Thankfulness, Reverence, Compassion, Creation, Trust, Wisdom, Justice, Forgiveness, Peace, Humility, Koinoinia (Fellowship)
There is an open invitation to parents and member of the community to join us in our Services in the Church