Tocynnau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ar gael am ddim! Mae tocynnau mynediad i faes Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych ar gael yn rhad ac am ddim o heddiw ymlaen. Ewch i www.urdd.cymru/tocynnau Eleni, mae Maes yr ŵyl yn ôl mewn cae am y tro cyntaf ers 2018 ac i ddathlu Canmlwyddiant yr Urdd mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i ganiatáu mynediad am ddim i’r Eisteddfod – i bawb! Bydd Eisteddfod eleni yn cynnig rhywbeth i bawb. “Llwyfan i bawb” – dim rhagbrofion Ni fydd rhagbrofion i’r cystadleuwyr sy’n cyrraedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni, ond yn hytrach, mi fydd cyfle i bawb gystadlu ar lwyfan. Nid un Pafiliwn fydd ar faes yr Eisteddfod, ond tri! Gŵyl Triban – gŵyl o fewn gŵyl Eich gwahoddiad i Aduniad Mwya’r Ganrif! Dathlu’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymru mewn gŵyl o fewn gŵyl ar Faes Eisteddfod yr Urdd Bwyd. Bandiau. Bar. Cwmni. Cofio. Cymdeithasu. Mehefin 2-4, 2022 www.urdd.cymru/triban Edrychwn ymlaen i’ch gweld chi yn Ninbych! |