Rasys Traws gwlad / Cross-country Races

Cawsom wybod brynhawn Gwener diwethaf bod Tîm Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych yn trefnu cystadleuaeth rhedeg traws gwlad ar gaeau Clwb Rygbi Rhuthun ar ddydd Gwener, Hydref 28ain.

Mae pedair ras i gyd:

Bechgyn Blynyddoedd 3 a 4 – 1000m

Merched Blynyddoedd 3 a 4 – 1000m

Bechgyn Blynyddoedd 5 a 6 – 1500m

Merched Blynyddoedd 5 a 6 – 1500m

Rydym yn gobeithio anfon un plentyn i gynrychioli’r ysgol ym mhob ras.  Dydd Iau yma, bydd y disgyblion sy’n dymuno rhedeg yn ymarfer rhedeg pellter y ras.  Ar ddydd Mawrth, Hydref 25ain, byddwn yn cynnal rasys yn yr ysgol gydag enillydd pob ras yn cynrychioli’r ysgol yn Rhuthun.

Os ydych chi’n fodlon i’ch plentyn fentro, a wnewch chi gwblhau’r ffurflen ar-lein, os gwelwch yn dda: https://forms.office.com/r/03emD0gwvJ


We were informed last Friday afternoon that Denbighshire Leisure’s Active Communities Team is organising a cross-country competition on the fields of Ruthin Rugby Club on Friday, October 28th.

There are four races in total:

Boys Years 3 and 4 – 1000m

Girls Years 3 and 4 – 1000m

Boys Years 5 and 6 – 1500m

Girls Years 5 and 6 – 1500m

We hope to send one child to represent the school in each race.  This Thursday, the pupils who wish to run will practice running the distance of the race.  On Tuesday, October 25th, we will hold races at school with the winner of each race representing the school in Ruthin.

If you are willing for your child to take part, please complete the online form: https://forms.office.com/r/03emD0gwvJ

Diolch yn fawr.