Clwb Brecwast a Chlwb ar ôl Ysgol / Breakfast and After School Club

Clwb Brecwast a Chlwb ar ôl Ysgol

Mae’r ysgol yn cynnal Clwb brecwast am ddim yn y bore i hwyluso trefniadau i’r rhieni sydd eisiau cymryd mantais o’r gefnogaeth. Mae’r clwb brecwast am ddim yn dechrau am 7.50yb. Bydd brecwast syml yn cael ei ddarparu i unrhyw ddisgybl rhwng 7.50yb ac 8.20.yb.  Ni fyddwn yn paratoi brecwast ar ol hynny. Mi fydd staff y clwb brecwast am ddim yn pahau i ‘oruchwylio’r  disgyblion yn y clwb tan 8.30yb. Yna bydd y disgyblion a’r staff yn mynd allan ar y buarth rhwng 8.30yb tan 8.55am. O safbwynt diogelwch eich plentyn, mae’n bwysig bod pob rhiant sy’n cludo eu plentyn i’r ysgol cyn 8.30yb yn sicrhau eu bod yn trosglwyddo eu plentyn i aelod o staff y clwb brecwast, ac yn arwyddo’r gofrestr eu bod wedi gwneud hyn. Nid ydym yn disgwyl plant tacsi tan ar ol 8.35yb ac erbyn hyn bydd aelod o staff ar ddyletswydd wrth giat yr ysgol. Mae’r trefniadau yma yn cyd-fynd a chynllun clybiau brecwast am ddim Llywodraeth Cymru.

Mae cyfle hefyd i blant aros yn y Clwb ar ôl ysgol o 3.30yp tan 5.25yh. Rydym yn codi £9.00 y plentyn i fynychu’r clwb yma. Mae’r staff yn paratoi rhywbeth i fwyta i’r disgyblion. Gellir derbyn mwy o wybodaeth drwy holi yn yr ysgol. Cyn mynychu’r clwb bydd y staff yn gofyn i chi gwblhau ffurflen wybodaeth. Bydd angen i chi arwyddo’r gofrestr dyddiol a nodi’r amser y byddwch wedi derbyn eich plentyn yn ol i’ch gofal.

Mae disgwyl i bob plentyn sy’n mynychu’r clwb brecwast, clwb ar ôl ysgol ac unrhyw glybiau eraill, ymddwyn yn briodol a dangos yr un parch tuag at y staff a’u cyfoedion, â sydd yn ddisgwyliedig yn ystod yr oriau ysgol.

Gellir talu am y clybiau drwy ‘Parent pay’. Mae’r rhan fwyaf o rieni yn talu unai ar y diwrnod neu yn gwneud taliadau rheolaidd cyn diwedd y mis. Serch hynny mae cyfyngiad o £100 y plentyn ar gyfer y clwb ar ol ysgol. Ni chanieteir i blentyn fynychu’r clwb os oes dyled sydd dros y cyfyngiad, tan fydd y dyled wedi ei dalu’n llawn neu yn ol yn is na’r cyfyngiad.

Bwyd a diodydd mewn clybiau ar ol ysgol – cliciwch y ddolen isod

After School Clubs Cymraeg

Breakfast Club and After School Club

The school has a Free Breakfast Club in the mornings to help parents who wish to take advantage of the support. The club starts at 7.50am. Staff provide a simple breakfast for any pupils between 7.50am and 8.20am. We do not provide a breakfast after this time. The Free Breakfast Club staff will continue to supervise the pupils  in the club until 8.30am.  The staff and pupils will then go out on the yard from 8.30am until 8.55am. For the safety of your child, it is important that parents who arrive before 8.30am hand over their child to a member of the Breakfast Club staff and sign the register. We do not expect pupils who arrive by taxi to be on site until 8.35am, and in the meantime a member of staff will have arrived for duty at the school gate. These arrangements meet the guidelines of the Welsh Government free breakfast scheme.

Pupils can also attend the After School Club from 3.30pm until 5.25pm. We charge £9.00 per child. The staff will prepare some food for the children. Please contact the school for more information. Before attending the club, parents will be asked to complete an information form. parents will need to sign the daily register and note the time your child was handed over to your care.

Every pupil attending the Clwb Brecwast and After School Club or any other club, is expected to behave appropriately and to show the  same respect to pupils and staff as they would in normal school hours.

It is possible to pay for clubs through ‘Parent pay’. Most parents either pay on the day or make regular payments at the end of the month. There is a ‘cap’ of £100 per child for the after school club. Children will not be able to attend a club until the debt has been cleared or is below the ‘cap’.

Food and drink in afterschool clubs – click the link below

After School Clubs English