Taliadau Prydau Ysgol Am Ddim / Free School Meal Payments

Datganiad gan Gyngor Sir Ddinbych:

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru’n parhau i ddarparu cyllid i wneud taliadau prydau ysgol am ddim ar gyfer disgyblion cymwys yn ystod gwyliau’r ysgol dros y Pasg a Sulgwyn, mewn ymateb i’r argyfwng costau byw.

Bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i wneud trefniadau i’r taliadau yma gael eu gwneud ar gyfer gwyliau’r Pasg (3 Ebrill tan 14 Ebrill), wythnos Sulgwyn (29 Mai tan 2 Mehefin), a Gŵyl y Banc mis Mai a Gŵyl y Banc y coroni.

Rydym yn rhoi gwybod i rieni / gwarcheidwaid bod y taliadau yma’n cael eu gwneud yn seiliedig ar fod yn gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim. Mi fydd y taliad ar gyfer gwyliau’r Pasg yn cael ei anfon ar 3ydd o Ebrill.

Mae hwn yn fater ar wahân yn llwyr i gyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn oed cynradd, sydd wedi galluogi plant Derbyn a Blwyddyn 1 i gael prydau ysgol am ddim y tymor ysgol hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad y bydd y mwy o gyllid ar gael gan y bydd yn rhoi mwy o sicrwydd i rai teuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw. Rydyn ni eisiau sicrhau bod pob plentyn yn cael pryd maethlon a bydd y taliad yma’n helpu i wneud hynny.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/grantiau-ac-ariannu/cinio-ysgol-am-ddim.aspx


A statement from Denbighshire County Council:

Denbighshire County Council has welcomed news that the Welsh Government are continuing to make funding available to make free school meal payments for eligible pupils for the Easter and Whitsun school holidays, in response to the cost of living crisis.

This will enable the Council to make arrangements for these payments to be made for the forthcoming Easter holidays (3rd April to 14th April), Whitsun week (29th May to 2nd June) together with the May Bank Holiday and the Coronation Bank Holiday.

Parents / guardians are being informed that the payments will be made based on eligibility for Free School Meals. The payment for the Easter holidays will be made on the 3rd April.

This is completely separate to the roll out of Universal Primary Free School Meals which has seen Reception age children and Year 1 pupils being able to access free meals this school term.

Councillor Gill German, Cabinet Lead Member for Education, Children and Families, said:

“We welcome this announcement of the extension of this funding as it will provide further reassurance to some families, given the cost-of-living crisis. We want to make sure all children receive a proper meal and this payment, made directly into bank accounts of eligible parents automatically, will help with this cost.”

For more information go to: https://www.denbighshire.gov.uk/en/education-and-schools/grants-and-funding/free-school-meals.aspx