Ymweliad Anti Nia / Aunty Nia’s Visit

Ddoe, cawsom ymweliad gan Mrs Nia Roberts (mam Sam) i siarad am y daith fydd hi’n ei gwneud yn ystod y gwyliau Haf i Gambia , yn Affrica i gefnogi babis a phlant ifanc. Bydd yn ymweld ag ysgol. Roedd pawb wedi gwrando yn ofalus ar ei phwerbwynt a chafwyd cwestiynau gwych gan y disgyblion. Diolch yn fawr iawn i Anti Nia am ddod draw i’r ysgol. Bydd Anti Nia yn dychwelyd yn nol atom tymor nesaf i ddweud hanes ei thaith.

Hoffem gefnogi Anti Nia ar ei thaith drwy gynnal stondin gacennau yn yr ysgol Dydd Gwener, Mehefin 24ain. Bydd yno groeso hefyd i’r disgyblion wisgo gwisg lliw banner Gambia, sef coch, glas, gwyrdd a gwyn ac byddwn yn gofyn yn garedig am gyfraniad gwirfoddol o £1 tuag at hyn ar gyfer pob plentyn.

Os gallwch ein cynorthwyo, drwy goginio cacennau ar gyfer Dydd Gwener nesaf, gwerthfawrogwn hyn yn fawr iawn. Mi gaiff y disgyblion ddod ag arian i mewn i’r ysgol i brynu cacennau.

 

Yesterday, we had a visit from Mrs Nia Roberts (Sam’s mother) to speak to us about the journey she will be making this Summer to Gambia, in Africa to support babies and children. Everyone listened carefully to Anti Nia’s presentation and we had wonderful questions from the pupils. Thank you very much to Aunty Nia, for visiting the school. Aunty Nia will be returning next term back to our school to discuss her journey.

We would like to support Aunty Nia’s journey through raising money by having a cake stall at the school next Friday, June 24th. The pupils can also wear clothing the same colour as Gambia flag which is red, blue, green and white. We are asking kindly for a voluntary donation of £1 per child.

If you are able to support us by baking cakes by Friday, June 24th, we would appreciate this very much. The pupils can bring money into school on Friday to purchase a cake.