Ymweliadau Addysgol / Educational Visits – 23.03.2023

Llaethdy Mynydd Mostyn Dairy

Diolch yn fawr i deulu a staff Llaethdy Mynydd Mostyn am adael i ni ymweld â’r fferm. Roedd pawb wedi gwirioni â’r holl anifeiliaid a chwarae gemau, yn ogystal â chael blasu’r ysgytlaeth hyfryd!

We would like to thank the family and staff of Mynydd Mostyn Dairy for allowing us to visit the farm. Everyone enjoyed seeing the animals and playing games, as well as tasting the lovely milkshake!


Traeth Talacre Beach

Ymunodd staff o Eni UK Ltd â disgyblion Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 ar y traeth yn Nhalacre. Ar ôl chwilio am dystiolaeth ar y traeth a’r twyni, bu’r disgyblion yn trafod ecosystem yr ardal. Roedd yn waith caled dringo’r twyni ond roedd dod i lawr ychydig yn haws!

Pupils in Years 3, 4, 5 and 6 were joined by staff of Eni UK Ltd at the beach in Talacre. After searching the beach and dunes for evidence, pupils discussed the area’s ecosystem. It was hard work climbing the dunes but descending was a little easier!


Diolch i’r CRhA / Thanks to the PTA

Hoffem ddiolch yn fawr i Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol am gytuno i dalu am ddau fws ar gyfer ymweliadau’r diwrnod.  Cyfanswm cost y bysiau oedd £460!

We would like to thank the school’s Parent Teacher Association for agreeing to pay for two buses for the visits.  The total cost of the buses was £460!