Cysylltu

efo Ni

Ysgol Tremeirchion

Tremeirchion

Llanelwy / St Asaph

LL17 0UN

01745 710328

ysgol.tremeirchion@sirddinbych.gov.uk

ysgol.tremeirchion@denbighshire.gov.uk

@YsgTremeirchion

Ysgol Tremeirchion © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Adref

Newyddion

Gwybodaeth

Disgyblion

Cyngor Ysgol

Mae Cyngor yr Ysgol yn weithredol iawn. Cynhelir etholiad pob blwyddyn ar gyfer dewis aelodau’r cyngor. Mae pob dosbarth a phob blwyddyn yn cael eu cynrychioli. Maent yn rheolaidd yn casglu arian tuag at elusennau drwy wahanol weithgareddau. Rhoddir cyfle i gyflwyno i’r llywodraethwyr a’r rhieni eu bwriad gweithredu a gwneud penderfyniadau am eu hysgol. Mae gan y Cyngor cyfrif banc eu hunain ac yn gwneud penderfyniadau yn ystod y flwyddyn ar flaenoriaethau gwariant. Mae gan Cyngor yr Ysgol eu Cynllun Gweithredu Ysgol eu hunain sydd hefyd yn rhan o Gynllun Datblygu yr ysgol gyfan. Pob blwyddyn mae Cyngor yr ysgol yn cytuno ar addewid gweithredu a blaenoriaethau am y flwyddyn. Maent hefyd yn cwrdd gyda Cyfeillion Rhieni ac Athrawon yr ysgol. Maent yn cynllunio ar y cyd ar gyfer gweithgareddau, blaenoriaethu gwariant a rhannu syniadau er lles y disgyblion. Dyma Addewid Cyngor yr Ysgol Bydd Cyngor Ysgol Tremeirchion yn: Helpu cadw’r ysgol yn iach a diogel Helpu’r plant i fod yn ffrindiau Rhoi cyfle i blant ac oedolion rannu eu syniadau Trafod syniadau newydd. Casglu arian er mwyn helpu elusennau a plant a phobl llai ffodus na ni Trafod efo’r plant sut yr ydym am wario arian o’n cyfrif banc. Ar hyn o bryd mae gennym £…….. yn y banc. Cyfarch ymwelwyr newydd i’r ysgol a sicrhau bod croeso gan y plant Gweithio efo’r plant sydd ar Pwyllgor Ysgolion Iach a Pwyllgor Iechyd a Diogelwch Gwneud ein gorau i wneud pawb yn hapus a diogel Cydweithio gyda CRhA ysgol Tremeirchion a chreu rhaglen o weithgareddau ar gyfer y flwyddyn Cyfrannu at bolisïau – blwyddyn diwethaf dyma ni yn helpu i greu polisi disgwyliadau dosbarth a disgwyliadau buarth Mae’n bwysig bod gennym ni blant yr ysgol lais, mae gennym yr hawl i drafod a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnom ni

Newyddion

Gwybodaeth

Disgyblion

Adref

Cysylltu

efo Ni

Ysgol Tremeirchion

Tremeirchion

Llanelwy / St Asaph

LL17 0UN

01745 710328

ysgol.tremeirchion@sirddinbych.gov.uk

ysgol.tremeirchion@denbighshire.gov.uk

@YsgTremeirchion

Ysgol Tremeirchion © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs