Newyddion
Gwybodaeth
Disgyblion
Adref
Cysylltu
efo Ni
Ysgol Tremeirchion
Tremeirchion
Llanelwy / St Asaph
LL17 0UN
01745 710328
ysgol.tremeirchion@sirddinbych.gov.uk
ysgol.tremeirchion@denbighshire.gov.uk
@YsgTremeirchion
Ysgol Tremeirchion © 2025
Website designed and maintained by H G Web Designs
Eglwys
Ethos a
Gwerthoedd
Cristnogol
Mae’r cyfle i addoli ar y cyd
yn bwysig iawn i’r ysgol. Mae
rhaglen blynyddol o themâu
wedi eu paratoi ar gyfer y
disgyblion. Mae’r rhain yn
cynnwys: dechrau blwyddyn
newydd, agwedd tuag at
eraill, ymddygiad a pharch, y
byd o’n cwmpas, cariad a
chred, cyfathrebu, hanesion
y Testament Newydd, rhyfel a
heddwch, stori’r Nadolig a
Pasg, dysgu gwers gan bobl
o’r Beibl i enwi rhai.
Yn ystod pob gwasanaeth
rydym yn rhoi cyfle i
ddisgyblion fyfyrio mewn
amser o dawelwch. Byddwn
hefyd yn blaenoriaethu ar
un ethos Cristnogol ac yn
gofyn i’r disgyblion a’r
oedolion am feddwl am
gyfleon iddynt weithredu
ysbryd yr ethos Cristnogol
yn yr wythnos i ddod.
Rhoddi’r cyfle ar ddechrau
gwasanaeth i ddisgybl
oleuo’r gannwyll ac i arwain y
gynulleidfa mewn gweddi
fach: ‘Yng ngolau’r gannwyll
gwelwn fod Duw yma gyda
ni’. Wrth ddiffodd y gannwyll
ar ddiwedd y gwasanaeth
rhoddi’r cyfle i’r gynulleidfa
anfon eu gweddi tuag at rai
llai ffodus sydd yn ein
meddyliau.
Addoli ar y Cyd
Fel un o Ysgolion Eglwys yng
Nghymru, mae gwerthoedd
ac ethos Cristnogol yn
cymryd rhan blaenllaw ym
mywyd dydd i ddydd yr
ysgol. Rydym yn cyflwyno
ethos a gwerthoedd
Cristnogol mewn sawl ffordd
, yn cynnwys Addysg
Grefyddol, Gwasanaethau
Addoli ac yn llai ffurfiol wrth
i ni ymdrin a bywyd yr ysgol.
Dyma restr o themâu
byddwn yn eu cyflwyno yn
ystod y flwyddyn mewn
gwasanaeth wythnosol.
Mae’r disgyblion ar hyn o
bryd yn derbyn Gwasanaeth
‘Agor y Llyfr’ pob pythefnos
yn yr Eglwys ar fore Llun. Mrs
Nesta Davies a’i thîm sy’n
cyflwyno’r Gwasanaeth yma.
Bydd Mr Gareth Williams
Ymwelydd yr Esgob yn
arwain gwasanaethau pob
hanner tymor ac hefyd ein
ficer Mr Colin Mansley.
Rydym hefyd yn gwahodd
asiantaethau ac ymwelwyr i
gyflwyno mewn rhai
gwasanaethau yn ystod y
flwyddyn.
Themâu Addoli ar y Cyd:
Dechrau blwyddyn newydd a
diwedd blwyddyn
Pobl sy’n ein helpu neu sydd
wedi gwneud gwahaniaeth
Diolchgarwch
Arwyr ein cenedl
Gofal a chariad tuag at
greaduriaid
Gofal Duw a gofalu am eraill
yn y wlad hon neu ar draws y
byd
Rhyfel a heddwch
Gwrth fwlio ac agwedd iach
tuag at eraill
Barnados, Operation
Christmas Child ac
elusennau eraill
Dathlu dyddiadau arbennig
– Nadolig, Pasg,
Diolchgarwch
Stori’r geni
Natur y Beibl, y Byd o’n
cwmpas, gofal am ein byd,
gofod
Dŵr
Blynyddoedd cynnar yr Iesu
Byw yn iach
Seintiau
Diwrnod y Llyfr ac Awduron
Cartrefi ac Addoldai
Cred a’r Damhegion
Yn ogystal a dilyn thema
wythnosol, rydym hefyd yn
cyflwyno i’r disgyblion ethos
Gwerthoedd Cristnogol, gan
roi ffocws wythnosol ar un o’r
gwerthoedd ym mhob
agwedd o fywyd dyddiol yr
ysgol:
Cyfeillgarwch,
Gwasanaeth,Dyfalbarhad,
Gobaith, Diolchgarwch,
Parch, Tosturi, Cread,
Ymddiried, Doethineb,
Cyfiawnder, Ufudd-dod,
Maddeuant, Heddwch,
‘Koinonia’ (Partneriaeth).
Mae gwahoddiad agored i
rieni a’n cymdogion i ymuno
gyda ni yn ein
gwasanaethau yn yr Eglwys.
Dilynwch y lincs canlynol:
•
Canllawiau ar Grefydd,
Gwerthoedd a Moeseg
•
Cwricwlwm i Gymru:
Canllawiau ar Grefydd,
Gwerthoedd a Moeseg